Grŵp → 13
↓ Cyfnod
2 5
B
3 13
Al
4 31
Ga
5 49
In
6 81
Tl

Enw arall y teulu hwn o elfennau ydy'r Grŵp Boron. Grŵp o un-deg-tri o elfennau (metalau tlawd) a nodir yn y tabl cyfnodol ydy Grŵp 13. Yn nhrefn safonnol IUPAC mae grŵp 13 yn cynnwys: boron (B), alwminiwm (Al), galiwm (Ga), indiwm (In), thaliwm (Tl) ac ununtriwm (Uut).

Mae patrwm yr electronnau rhwng aelodau unigol y teulu yn debyg iawn, yn enwedig ar du allan y gragen, ac oherwydd hyn mae eu hymddygiad yn debyg hefyd:

Z Elfen Nifer yr electronnau
5 boron 2, 3
13 alwminiwm 2, 8, 3
31 galiwm 2, 8, 18, 3
49 indiwm 2, 8, 18, 18, 3
81 thaliwm 2, 8, 18, 32, 18, 3

Ymhlith yr enwau eraill a gafwyd dros y blynyddoedd ar Grŵp 13 y mae: "metalau'r ddaear" a'r "trielau" a ddaw o'r Lladin 'tri' gan mai hen enw'r grŵp oedd IIIB. Priodwedd, neu nodwedd pennaf y grŵp yw fod gan bob elfen dri electron ar y tu allan - yn yr haen 'valence'.

Meteloid ydy boron, ac mae gweddill aelodau'r teulu yn fetalau. Mae boron yn elfen brin iawn, yn wahanol felly i alwminiwm - sef y trydydd elfen mwyaf cyffredin ar blaned Daear (4.7%).

Allwedd y tabl, uchod:
Metaloidau Metalau tlawd mae'r rhif atomig du yn solid mae'r ffiniau solid yn cynnwys elfennau primordaidd sy'n hŷn na'r Ddaear) mae'r ffiniau toredig yn cynnwys dadfeiliad ymbelydrol, Elfennau synthetig