Dinas yn nhalaith Gogledd Carolina, Unol Daleithiau America, yw Elizabeth City. Mae'n gorwedd yn rhannol yn Pasquotank County a hefyd yn Camden County. Gyda phoblogaeth o 18,683 (cyfrifiad 2010), Elizabeth City yw canolfan sirol Swydd Pasquotank. Saif ar dro yn Afon Pasquotank, afon sy'n llifo i'r Albemarle Sound, ac mae'n rhan o system camlesi ac afonydd yr Intracoastal Waterway.

Elizabeth City, Gogledd Carolina
Mathdinas yn yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Poblogaeth18,631 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1794 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethE. Kirk Rivers Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPasquotank County, Camden County Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Arwynebedd31,700,000 m², 31.728491 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr4 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36.2956°N 76.225°W Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Mayor of Elizabeth City Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethE. Kirk Rivers Edit this on Wikidata
Map

Sefydlwyd y ddinas yn 1794. Lleolir gwersyll fwyaf Gwylwyr y Glannau UDA yno. Y brif sefydliad addysg yw prifysgol Elizabeth City State University.

Pobl o'r ddinas golygu

  • Edward Snowden (g. 1983), a ganodd y gloch ar raglenni ysbio torfol llywodraeth yr Unol Daleithiau.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Ogledd Carolina. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.