Empire of the Sun (nofel)

Mae Empire of the Sun yn nofel a ysgrifennwyd gan J. G. Ballard ym 1984. Derbyniodd y nofel Wobr Goffa James Tait Black. Er mai ffuglen yw'r nofel hon mae'n dwyn i gôf profiadau helaeth Ballard yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cyn y nofel hon, ysgrifennodd Ballard stori fer, "The Dead Time" a oedd hefyd yn stori ddychmygol.

Empire of the Sun
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurJ. G. Ballard Edit this on Wikidata
CyhoeddwrVictor Gollancz Ltd Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi13 Medi 1984 Edit this on Wikidata
Genrenofel hunangofiannol Edit this on Wikidata
Olynwyd ganThe Kindness of Women Edit this on Wikidata
Prif bwncyr Ail Ryfel Byd Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithGweriniaeth Tsieina, Shanghai Edit this on Wikidata
Clawr yr argraffiad cyntaf o Empire of the Sun

Yn ddiweddarach, ysgrifennodd Ballard nofel ddilynol o'r enw The Kindness of Women.

Plot golygu

Adrodda'r nofel hanes bachgen bach o Sais, Jim Graham (enw cyntaf ac ail enw Ballard yw James Graham), sydd yn byw gyda'i rieni yn Shanghai. Ar ôl ymosodiad Pearl Harbour, mae'r Siapanwyr yn meddiannu ar wladfa ryngwladol Shanghai ac yn yr anhrhefn sy'n dilyn, caiff Jim ei wahanu o'i rieni.

Treulia beth amser mewn plasdai gwag, gan fyw ar weddillion bwyd pecyn ond yn fuan iawn caiff ei ddal gan y Siapanwyr a'i roi yng Nghanolfan Ymgynnull Sifiliaid Lungha.

Er fod y Siapanwyr yn elynion yn swyddogol, gall Jim uniaethu â hwy, yn rhannol am ei fod wrth ei fodd â'r peilotiaid a'u peiriannau godidog ond hefyd am ei fod yn teimlo fod Lungha yn gymharol ddiogel yn yr amseroedd cythryblus hyn.

Wrth nesáu at ddiwedd y rhyfel, gwelwn fyddin Siapan yn gwanhau ac mae bwyd yn dod yn brin. Prin goroesu y mae Jim, gyda'r bobl o'i amgylch yn newynu i farwolaeth.

Addasiad ffilm golygu

Addaswyd y llyfr gan Tom Stoppard ym 1987. Ffilmiwyd y sgript gan Steven Spielberg a chafodd ganmoliaeth enbyd. Cafodd y ffilm ei henwebu am chwech o wobrau'r Academi [1] ac enillodd chwech o wobrau'r Academi Brydeinig (BAFTA) (am sinematograffeg, cerddoriaeth a sain). Actiodd Christian Bale (a oedd yn 13 oed), yn ogystal â John Malkovich a Miranda Richardson, yn y ffilm.

Cyfeiriadau golygu