Ernest Jones

seicdreiddiwr a chofiannydd swyddogol Sigmund Freud

Roedd Alfred Ernest Jones (1 Ionawr, 187911 Chwefror, 1958) yn seiciatrydd Cymreig ac yn ddisgybl i Sigmund Freud. Ef oedd yn bennaf gyfrifol am ledaenu syniadau ei athro i'r Deyrnas Unedig ar Unol Daleithiau.

Ernest Jones
Ganwyd1 Ionawr 1879 Edit this on Wikidata
Tre-gŵyr Edit this on Wikidata
Bu farw11 Chwefror 1958 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethseiciatrydd, seicdreiddydd, niwrolegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodMorfydd Llwyn Owen Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Coleg Brenhinol y Meddygon Llundain Edit this on Wikidata
Ernest yw'r seicoanalydd ar dde'r llun, yn sefyll. Gwelir ei gyfaill Freud ar y chwith yn eistedd.

Fe'i ganwyd yn Nhre-gŵyr, ger Abertawe[1], ac addysgwyd ef yn gyntaf yn Ysgol Ramadeg Abertawe ac yna yng Nghaerdydd ac Ysbyty Coleg y Brifysgol, Llundain lle graddiodd yn feddyg yn 1901. Ym 1907, tra yn Wien, daeth yn ddisgybl i'r seicolegydd enwog Freud. Gadawodd y cyfandir ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf a dychwelodd i Lundain, lle sefydlodd y Gymdeithas Seicoanalytig Brydeinig ym 1919. Pan y bu rhaid i Freud adael Awstria yn sgil yr Anschluss ym 1938, bu Ernest Jones yn gymorth i'w ryddhau o ddwylo'r Natsiaid ac yna ei gynorthwyo i sefydlu yn Llundain yn ei flwyddyn diwethaf cyn ei farwolaeth ym 1939.

Roedd Ernest Jones hefyd yn ymddiddori yng ngwleidyddiaeth ac yn aelod cynnar o Blaid Cymru. Ei wraig gyntaf oedd y cyfansoddwraig Morfudd Llwyn Owen a briododd yn 1917 ac yna Katherine Jokl yn 1919. Ei lyfr sylweddol diwethaf oedd bywgraffiaeth swyddogol Freud, 'Sigmund Freud, Bywyd a Gwaith, 1954 - 1957'.

Roedd yn un o aelodau cyntaf Plaid Cymru ac yn gwaredu, gydol ei oes, nad oedd yn rhugl yn y Gymraeg.

Llyfrau a gweithiau eraill ganddo golygu

  • 1912. Papers on Psycho-Analysis. Llundain: Balliere Tindall & Cox. Revised and enlarged editions, 1918, 1923, 1938, 1948 (5ed rhifyn).
  • 1920. Treatment of the Neuroses. Llundain: Balliere Tindall & Cox
  • 1923. Essays in Applied Psycho-Analysis. Llundain: International Psycho-Analytical Press. Revised and enlarged edition, 1951, Llundain: Hogarth Press.
  • 1924 (editor). Social Aspects of Psycho-Analysis: Lectures Delivered under the Auspices of the Sociological Society. Llundain: Williams and Norgate.
  • 1928. Psycho-Analysis. Llundain: E. Benn (reprinted with an Addendum as What is Psychoanalysis ? in 1949. Llundain: Allen & Unwin).
  • 1931a. On the Nightmare. Llundain: Hogarth Press and Institute of Psycho-Analysis.
  • 1931b. The Elements of Figure Skating. Llundain: Methuen. Revised and enlarged edition, 1952. Llundain: Allen and Unwin.
  • 1949. Hamlet and Oedipus. Llundain: V. Gollancz.
  • 1953. Sigmund Freud: Life and Work. Vol 1: The Young Freud 1856-1900. Llundain: Hogarth Press.
  • 1955. Sigmund Freud: Life and Work. Vol 2: The Years of Maturity 1901-1919. Llundain: Hogarth Press.
  • 1957. Sigmund Freud: Life and Work. Vol 3: The Last Phase 1919-1939. Llundain: Hogarth Press.
  • 1961. Sigmund Freud: Life and Work. Addasiad o'r 3 cyfrol cynharach gan Lionel Trilling a Stephen Marcus, gyda chyflwyniad gan Lionel Trilling. Efrog newydd: Basic Books.
  • 1956. Sigmund Freud: Four Centenary Addresses. Efrog Newydd: Basic Books
  • 1959. Free Associations: Memories of a Psycho-Analyst. Llundain: Hogarth Press.

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwyddoniadur Cymru, gwasg Prifysgol Cymru, 2008; tudalen 482
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.