Ernest Rhys

bardd, awdur, a golygydd

Bardd, nofelydd a golygydd o dras Cymreig, a aned yn Islington, oedd Ernest Rhys (17 Gorffennaf 185925 Mai 1946).

Ernest Rhys
GanwydErnest Percival Rhys Edit this on Wikidata
17 Gorffennaf 1859 Edit this on Wikidata
Islington Edit this on Wikidata
Bu farw25 Mai 1946 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, golygydd, ysgrifennwr, golygydd cyfrannog Edit this on Wikidata
PriodGrace Rhys Edit this on Wikidata
PlantMegan Rhys Edit this on Wikidata

Roedd yn un o sylfaenwyr The Rhymers' Club, gyda W. B. Yeats a T. W. Rolleston. Roedd hefyd yn gyfaill i'r bardd Ezra Pound.

Fe'i cofir yn bennaf am ei waith fel golygydd y gyfres Everyman's Library i gwmni Dent rhwng 1906 a 1946.

Ysgifennodd nifer o nofelau rhamantaidd ag iddynt gefndir Celtaidd yn aml, yn ogystal â cherddi, dau werslyf ar hanes a llenyddiaeth Cymru, ac erthyglau ar y Celtiaid. Fel ei gyfaill W. B. Yeats tueddai i gofleidio'r syniad o'r "Gwyll Celtaidd". Cyfieithiodd gerddi Cymraeg i'r Saesneg a golygodd flodeugerdd Geltaidd ddylanwadol, A Celtic Anthology (1927).[1]

Llyfryddiaeth ddethol golygu

  • The Fiddler of Carne (1896). Nofel.
  • A London Rose (1894). Cerddi.
  • Welsh Ballads (1898). Cerddi.
  • The Whistling Maid (1900). Nofel am Gymru.
  • The Man at Odds (1904). Nofel am Gymru.
  • The Leaf Burners (1917). Cerddi.
  • Black Horse Pit (1925). Nofel.
  • A Celtic Anthology (1927).
  • Rhymes for Everyman (1933). Cerddi.
  • Song of the Sun (1937). Cerddi.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Rhys, Ernest, 1859-1946. Prosiect Gutenberg. Adalwyd ar 3 Mai 2012.