Seiclwr rasio, adeiladwr fframiau a pherchennog siop Seisnig oedd Ernie Clements (ganwyd Ernest J Clements 28 Chwefror 1922 Hadley, Swydd Amwythig, bu farw 3 Chwefror 2006, Malvern, Swydd Gaerwrangon).

Ernie Clements
Ganwyd28 Chwefror 1922 Edit this on Wikidata
y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Bu farw3 Chwefror 2006 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethseiclwr cystadleuol Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Roedd Ernie'n un o'r arweinwyr yng nghyflwyniad rasus beics sy'n cychwyn mewn tyrfa i Brydain, fel reidiwr i ddechrau ac yn ddiweddarach fel noddwr.[1].

Enillodd Bencampwriaeth Cenedlaethol Ras Ffordd y BLRC yn 1943 ac 1945, gan ddod yn ail yn 1944. Gwaharddwyd unrhyw seiclwyr a gystadlodd yn rasus y BLRC rhag gystadlu yn rasus yr NCU; ond rhywsut llwyddodd Ernie i osgoi hyn ac enillodd Bencampwriaeth Cenedlaethol yr National Cyclists' Union yn ogystal yn 1946 a daeth yn ail yn 1948. Yn sicr, pe na byddai Ernie wedi dod yn aelod o'r NCU ni fyddai wedi cael ei ystyried i gynyrchioli Prydain ym Mhencampwriaeth y Byd (amatur) yn 1946, ac ni fuasai wedi ennill y fedal arian yn Ras Ffordd Tîm Gemau Olympaidd 1948 yn Llundain, a wnaeth ar y cyd gyda Bob Maitland, Gordon Thomas ac Ian Scott. Enillodd gam cyntaf o ras Brighton-Glasgow yn 1951.[2]

Cafodd y gynnig i droi'n broffesiynol gan drefnwyr y Tour de France yn 1947 er mwyn iddo gallu cystadlu yn y ras, ond gwrthododd Ernie'r cynnig gan nad oedd eisiau colli ei statws fel reidiwr amatur ym Mhrydain.[3] Ar y pryd, nid oedd modd i reidiwr proffesiynol ym Mhrydain droi'n ôl yn amatur. Profodd hyn yn rwystredig ar gyfer seiclwyr proffesiynol a oedd yn cyrraedd diwedd eu gyrfa gan na allent gystadlu ar lefel is er mwyn mwynhad; eithrwyd hwy o'r chwaraeon yr oeddent wedi ymdrolli ynddi drwy eu bywyd.

Ganwyd Ernie yn Hadley, Swydd Amwythig ond treuliodd y rhan fwyaf o'i ddyddiau cynnar yn byw yn Old Park lle agorodd ei siop feics yn ddiweddarach. Bu'n adeiladu fframiau beics ac yn reolwr ar gwmni Falcon Cycles yn yr 1950au hyd yr 1970au. Cyn ei farwolaeth, bu'n byw yn Ledbury, Swydd Henffordd, yn 1990 tra'n 67 oed agorodd siop 'Clements Cycles' yno er mwyn cadw mew'n cysylltiad gyda'r byd seiclo.[4] Bu farw yn Ysbyty Cymuned Malvern yn 83 oed ar 5 Chwefror 2006, wedi dioddef o glefyd Parkinsons am flynyddoedd.[3]

Cynhelir Ras Gymalau Goffa Ernie Clements dros dau ddiwrnod, yn flynyddol gan y League of Veteran Racing Cyclists; gyda dwy ras arwahan ar gyfer reidwyr 40-54 oed, a 55 oed a hŷn. Mae dau gymal yn y diwrnod cyntaf, sef Prologue byr (1.36 mmilltir yn 2007) a Criterium (27 milltir yn 2007), Ras ffordd yw'r trydydd cymal a gynhelir ar yr ail ddiwrnod (64/48 milltir yn 2007).[5]

Canlyniadau golygu

1943
1af   Pencampwriaeth Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain, BLRC
1af Tour of the Peak, y rhifyn 1af
1944
1af 2il Tour of the Peak
2il Pencampwriaeth Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain, BLRC
1945
1af   Pencampwriaeth Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain, BLRC
1946
1af   Pencampwriaeth Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain, NCU
1948
2il   Ras Ffordd Tîm, Gemau Olympaidd
2il Pencampwriaeth Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain, NCU
1951
1af Cymal 1, o Brighton i Lundain, ras Brighton-Glasgow

Cyfeiriadau golygu

  1. RR Pioneer Ernie Clements Passes Away[dolen marw] British Cycling 11 Chwefror 2006
  2. "1951 Brighton to Glasgow, Stage one was Brighton to London, won by Ernie Clements from Wolverhampton." Extract from 'A Ketley Mon' by Terry Low.
  3. 3.0 3.1 Worcester News & Hereord Times 10 Chwefror 2006
  4. Teyrnged yng nghylchgrawn yr LVRC[dolen marw]
  5. "Canlyniadau Ras Gymalau Goffa Ernie Clements ar wefan LVRC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-20. Cyrchwyd 2007-09-25.
   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.