Erwin Schrödinger

Ffisegydd Awstriaidd, a ddaeth yn ddiweddarach yn ddinesydd o Iwerddon, oedd Erwin Rudolf Josef Alexander Schrödinger (12 Awst 18874 Ionawr 1961). Daeth yn enwog oherwydd ei gyfraniadau i fecaneg cwantwm, yn enwedig Hafaliad Schrödinger. Dyfarwnwyd Gwobr Ffiseg Nobel iddo yn 1933.

Erwin Schrödinger
GanwydErwin Rudolf Josef Alexander Schrödinger Edit this on Wikidata
12 Awst 1887 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Bu farw4 Ionawr 1961 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Man preswylDulyn, Dulyn, Fienna Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAwstria, yr Almaen, Awstria-Hwngari, yr Almaen Natsïaidd Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Friedrich Hasenöhrl
  • Franz-Serafin Exner Edit this on Wikidata
Galwedigaethffisegydd, ffisegydd damcaniaethol, academydd, athro cadeiriol, awdur ffeithiol, mathemategydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amSchrödinger equation, Schrödinger's cat Edit this on Wikidata
TadRudolf Schrödinger Edit this on Wikidata
PriodAnnemarie Schrödinger Edit this on Wikidata
PlantRuth Braunizer Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Matteucci, Medal Max Planck, Gwobr Ffiseg Nobel, Gwobr Erwin Schrödinger, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Gwobr Haitinger, Gwobr Paul Doistau-Émile Blutet am Wybodaeth Wyddonol, Cymrawd Cymdeithas Ffiseg America, Gwobr Awstria am Gelf a Gwyddoniaeth, Gwobr Gwyddoniaeth Dinas Fienna, Aelod Tramor o'r Gymdeithas Frenhinol, Pour le Mérite Edit this on Wikidata
llofnod
Penddelw Erwin Schrödinger gan Ferdinand Welz (1915–2008) y tu allan i'r prif adeilad Prifysgol Fienna

Ganed Schrödinger yn Fienna, ac addysgwyd ef yno dan Franz S. Exner a Friedrich Hasenöhrl. Daeth yn gynorthwydd i Exner yn 1911. Yn 1920, priododd Annemarie Bertel a daeth yn gynorthwydd i Max Wien ym Mhrifysgol Jena, cyn dod yn Athro ychwanegol (Ausserordentlicher Professor) yn Stuttgart. Yn 1921, daeth yn Athro llawn yn Breslau (Wrocław, Gwlad Pwyl, yn awr). Yn 1922 aeth i Brifysgol Zürich.

Yn Ionawr 1926, cyhoeddodd ei bapur Quantisierung als Eigenwertproblem, a ystyrir yn un o gyfraniadau pwysicaf yr 20g i'r pwnc. Yn 1927, olynodd Max Planck ym Mhrifysgol Friedrich Wilhelm, Berlin, ond yn 1933 gadawodd yr Almaen i osgoi'r Natsïaid. Yn 1936 cafodd swydd ym Mhrifysgol Graz yn Awstria.

Wedi i'r Almaen feddiannu Awstria yn 1938, collodd ei swydd, a bu'n gweithio mewn nifer o wledydd cyn cael swydd yn Nulyn, lle bu am 17 mlynedd a dod yn ddinesydd Gwyddelig. Dychwelodd i Fienna yn 1956, gan gael cadair bersonol ym Mhrifysgol Fienna.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: