Eryr môr

rhywogaeth o adar
(Ailgyfeiriad o Eryr y Môr)
Eryr môr
Haliaeetus albicilla

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Accipitriformes
neu Falconiformes
Teulu: Accipitridae
Genws: Eryrod môr[*]
Rhywogaeth: Haliaeetus albicilla
Enw deuenwol
Haliaeetus albicilla
(Linnaeus, 1758)
Dosbarthiad y rhywogaeth
Gwyrdd golau: Tymor nythu
Gwyrdd tywyll: Trwy'r flwyddyn
Glas: Gaeaf

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Eryr môr (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: eryrod môr) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Haliaeetus albicilla; yr enw Saesneg arno yw White-tailed sea eagle. Mae'n perthyn i deulu'r Eryr (Lladin: Accipitridae) sydd yn urdd y Falconiformes.[1] Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn H. albicilla, sef enw'r rhywogaeth.[2] Eryr y môr, eryr gynffonwen, eryr tinwyn, ac eryr mawr y môr yw enwau eraill ar y rhywogaeth.

Mae'n aderyn mawr, 69 – 91 cm (27 – 36 modfedd) o hyd a 182 – 238 cm (72 – 94 modfedd) ar draws yr adenydd. Pwysa'r ieir 4 – 6.9 kg (8.8–15.2 pwys), tra mae'r ceiliogod yn llai, 3 – 5.4 kg (6.6–12 pwys). Saif yn bedwerydd ymhlith eryrod y byd o ran maint.

Mae'n nythu ar draws gogledd Ewrop a gogledd Asia. Ceir poblogaeth fwyaf Ewrop o gwmpas arfordir Norwy. Pysgod ac adar yw eu prif fwyd, ond gall mamaliaid bychain fod yn bwysig hefyd.

Diflannodd y rhywogaeth o'r Alban yn y 19g, ond yn 1975, gollyngwyd nifer o adar ar ynys Rùm i geisio ei adfer. Mae'r eryr yma yn awr yn nythu ar draws Ynysoedd Heledd a rhai ar dir mawr yr Alban. Mae rhaglen i geisio adfer y rhywogaeth i Iwerddon, a bu awgrym y gellid gwneud yr un peth yng Nghymru. Nid oes sicrwydd a fu'r rhywogaeth yn nythu yng Nghymru yn y gorffennol ai peidio, ond mae'n bosibl fod rhai o'r cyfeiriadau at "eryr" yn cyfeirio at y rhywogaeth yma yn hytrach na'r Eryr euraid.

Haliaeetus albicilla
Haliaeetus albicilla groenlandicus

Teulu golygu

Mae'r Eryr môr yn perthyn i deulu'r Eryr (Lladin: Accipitridae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Barcud patrymog Elanus scriptus
 
Barcud pigfain Helicolestes hamatus
 
Barcud ysgwydd-ddu Elanus caeruleus
 
Boda mêl Pernis apivorus
 
Boda mêl Siberia Pernis orientalis
Bwncath De America Rupornis magnirostris
 
Eryr Brith Bychan Clanga pomarina
 
Fwltur barfog Gypaetus barbatus
 
Fwltur cycyllog Necrosyrtes monachus
 
Fwltur du Aegypius monachus
 
Gwalch ystlumod Macheiramphus alcinus
 
Gwalcheryr copog Lophaetus occipitalis
 
Gwalcheryr copog Asia Nisaetus cirrhatus
 
Gwyddwalch gabar Micronisus gabar
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  Safonwyd yr enw Eryr môr gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.