Cist, adeilad, ffynnon neu safle arall sydd wedi'i greu i fod yn lle gorffwys gweddillion ysgerbydol dynol yw esgyrndy (a elwir weithiau'n "deml"). Fe'i ddefnyddir yn aml pan mae lle yn brin. Caiff corff ei gladdu mewn bedd dros dro ac ar ôl ychydig o flynyddoedd caiff yr esgyrn eu symud a'u gosod mewn esgyrndy. Mae'r esgyrn yn cymryd llai o le fel ei fod yn bosib storio gweddillion nifer o bobl mewn un teml.

Esgyrndy yn Hallstatt, Awstria

Persia golygu

Ym Mhersia, defnyddiodd y Zoroastriaid ffynonau dwfn fel esgyrndai ers tua 1000 CC. Gelwyd y rhain yn astudan (yn llythrennol: "lle ar gyfer yr esgyrn"). Mae llawer o ddefodau a rheolau yn y gred Zoroastrian yghlŷn â'r astudans. Yr enw a roddwyd ar esgyrndy gan y Sogdiaid yng nghanol Asia cyn y 7c oedd tanbar.[1]

Catholig golygu

 
Canhwyllyr wedi'i greu allan o esgyrn a phenglogau yn Esgyrndy Sedlec, Gweriniaeth Tsiec.

Mae nifer o esiamplau o esgyrndai yn Ewrop, megis y Santa Maria della Concezione dei Cappuccini yn Rhufain, yr Eidal, San Bernardino alle Ossa ym Milan, yr Eidal, Sedlec Ossuary yn y Weriniaeth Tsiec, a Capela dos Ossos (Capel yr Esgyrn) yn ninas Évora, Portiwgal. Mae gan bentref Wamba yn nhalaith Valladolid, Sbaen esgyrndy trawiadol sy'n cynnwys dros mil o benglogau yn yr eglwys leol, rhwng y 12fed a'r 18g. Mae'r Ossuaire de Douaumont yn Ffrainc yn esiampl mwy diweddar, sy'n cynnwys gweddillion 130,000 o filwyr di-enw a fu farw ym Mrwydr Verdun yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae'r claddgell o dan Mynachlog San Francisco yn Lima, Periw, hefyd yn cynnwys esgyrdy.

Iddewaeth golygu

Yn ystod oes yr Ail Deml roedd arferion claddu Iddeweg yn cynnwys yr arfer o gladdu mewn ogofâu arbennig, gydag ail-gladdiad mewn esgyrndai yng nghilfachau bychan mewn ogofâu. Mae rhai o'r esgyrndai carreg galch sydd wedi eu canfod o amgylch ardal Jeriwsalem yn cynnwys patrymau geometrig manwl ac arysgrifau'n dynodi enwau'r meirw. Ymysg yr esgyrndai mwyaf enwog mae esgyrndy gyda'r arysgrif 'Simon yr adeiladwr Temlau' mewn casgliad yn Amgueddfa Israel. Mae un arall â'r arysgrif 'Elisheba gwraig Tarfon', un gyda'r arysgrif 'Yehohanan ben Hagkol' a oedd yn cynnwys hoelen haearn yn asgwrn y sawdl sy'n awgrymu fod y person wedi'i groeshoelio, ac un arall yn dweud 'James mab Joseph, brawd Iesu', ond mae amheuaeth ynglŷn â dilyswydd hwn. Mae deg esgyrndy a ganfyddwyd yn Nheml Talpiot yn 1980, yn cynnwys sawl enw o'r Testament Newydd.

Yn ystod cyfnod yr Ail Deml, roedd y doethwyr Iddewig yn trafod a oedd y digwyddiad o gasglu esgyrn rhiant ar gyfer eu hail-claddu yn un o dristwch neu'n ddathliad; penderfynwyd y dylai fod yn ddiwrnod o ymprydio yn y bore, ac o wledda yn y prynhawn. Ni barhaodd yr arferiad o ail-gladdu ymysg yr Iddewon wedi cyfnod yr Ail Deml, ac nid oedd yn bodoli erioed y tu allan i diroedd Israel.

Gweler hefyd golygu

 
Esgyrndy ar faes brwydr Gallipoli y Rhyfel Byd Cyntaf, sy'n cynnwys gweddillion 3000 o filwyr di-enw.

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: