Gwlad tirgaeedig yng ngogledd-ddwyrain Affrica yw Gweriniaeth Ddemocrataidd Ffederal Ethiopia neu Ethiopia; yr hen enw Cymraeg iddi oedd Abyssinia[1]. Mae'n ffinio ag Eritrea i'r gogledd, Swdan a De Swdan i'r gorllewin, Cenia i'r de a Somalia a Jibwti i'r dwyrain. Yn y cyfrifiad diwethaf, roedd y boblogaeth yn 104,957,438 (2017)[2]; Addis Ababa yw'r brifddinas, ac mae ganddi hithau boblogaeth o 3,041,002 (2012).

Ethiopia
ArwyddairLand of origins Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad, gwlad dirgaeedig Edit this on Wikidata
PrifddinasAddis Ababa Edit this on Wikidata
Poblogaeth104,957,438 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 21 Awst 1995 (1995 Constitution of Ethiopia) Edit this on Wikidata
AnthemMarch Forward, Dear Mother Ethiopia Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAbiy Ahmed Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00, Amser Dwyrain Affrica, Africa/Asmara Edit this on Wikidata
NawddsantSiôr Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Amhareg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDwyrain Affrica Edit this on Wikidata
GwladBaner Ethiopia Ethiopia
Arwynebedd1,104,300 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSwdan, De Swdan, Cenia, Somalia, Jibwti, Eritrea, Y Cynghrair Arabaidd, Somaliland Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau9°N 40°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Ethiopia Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynulliad Seneddol Ffederal Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Ethiopia Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethSahle-Work Zewde Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Ethiopia Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAbiy Ahmed Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$111,262 million, $126,783 million Edit this on Wikidata
Arianbir Edit this on Wikidata
Canran y diwaith5 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant4.395 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.498 Edit this on Wikidata

Mae gan Ethiopia arwynebedd o 1,100,000 km sgwar (420,000 milltir sgwar). Mae'n gartref i 117 miliwn o drigolion (dwywaith maint gwledydd Prydain yn y 2020au; hi felly yw'r 12fed wlad fwyaf poblog yn y byd a'r ail fwyaf poblog yn Affrica ar ôl Nigeria.[3] Gorwedd y brifddinas genedlaethol (a'r ddinas fwyaf), Addis Ababa, sawl cilomedr i'r gorllewin o Rift Dwyrain Affrica sy'n hollti'r wlad yn blatiau tectonig gwahanol: platiau tectonig Affrica a Somalia.[4]

Ei hanes yn grynno golygu

Diorseddwyd yr ymerawdwr Iyasu yn 1916, daeth ei fodryb Zewditu yn ymerodres, ac enwyd Tafari Makonnen yn aer i'r goron ac yn llywodraethwr y deyrnas.

Pan ddaeth Tafari Makonnen yn ymerawdwr yn 1930 ar farwolaeth Zewditu, cymerodd yr enw Haile Selassie, sy'n golygu "Grym y Drindod". Yn ystod ei deyrnasiad o 45 mlynedd, gwnaeth Haile Selassie lawer i geisio moderneiddio Ethiopia, ac enillodd boblogrwydd mawr yn Affrica a thu hwnt. Daeth i amlygrwydd byd-eang yn 1936 trwy ei araith i Gynghrair y Cenhedloedd yn condemnio defnydd yr Eidal o arfau cemegol yn eu hymdrech i oresgyn Ethiopia.

Aeth Haile Selassie yn fwy ceidwadol wrth iddo heneddio, a theimlai carfan yn Ethiopia nad oedd y wlad yn cael ei moderneiddio'n ddigon cyflym. Bu gwrthryfel yn ei erbyn, a diorseddwyd ef ar 12 Medi 1974.

Yn anatomegol, ymddangosodd bodau dynol modern (Homo sapiens) yn gyntaf yn Ethiopia gan ymledu i'r Dwyrain Agos ac mewn mannau eraill yn y cyfnod Paleolithig Canol.[5][6][7][8] Mae Ethiopia neu ogledd-ddwyrain Affrica wedi'i chynnig fel urheimat tebygol ar gyfer y teulu Affroasiatic o ieithoedd, a oedd, yn ôl y ddamcaniaeth hon, wedi'i wasgaru i'r cilgant Ffrwythlon cyn y cyfnod Neolithig gan boblogaeth a oedd wedi datblygu patrymau cynhaliaeth o gasglu planhigion dwys ac amaethu. Byddai'r patrymau cynhaliaeth hyn hefyd yn datblygu i fod yn batrymau cynhaliaeth mwy disgybledig (ffermio) a arferir yn yr Ethiopia fodern.[9][10] Yn 980 CC, ymestynnodd Teyrnas D'mt ei deyrnas dros Eritrea a rhanbarth gogleddol Ethiopia, tra bod Teyrnas Aksum wedi cynnal gwareiddiad unedig yn y rhanbarth am gyfnod o 900 mlynedd. Cyrhaeddodd Cristnogaeth yn y 4g a chyflwynwyd Islam yn y 7g. Ar ôl cwymp Aksum yn 960, roedd amrywiaeth o deyrnasoedd, cydffederasiynau llwythol yn bennaf yn bodoli yn Ethiopia gyda'r llinach Zagwe yn rheoli'r rhannau gogledd-canolog nes cael ei dymchwel gan Yekuno Amlak yn 1270 gan uno Ymerodraeth Ethiopia a'i linach Solomonaidd a hawliai eu bod yn tarddu o linach Beiblaidd y brenin Solomon a brenhines Sheba o dan eu mab Menelik I. Erbyn y 14g, tyfodd yr ymerodraeth mewn bri trwy ehangu ei thiriogaeth, drwy ymladd yn erbyn pobloedd cyfagos, yn fwyaf nodedig yn Rhyfel Ethiopia-Adal (1529-1543) a gyfrannodd at ddarnio'r ymerodraeth a syrthio o dan math o ddatganoli o'r enw Zemene Mesafint yng nghanol y 18g. Daeth yr Ymerawdwr Tewodros II a'r Zemene Mesafint i ben ar ddechrau ei deyrnasiad yn 1855, gan ailuno a moderneiddio Ethiopia.[11]

O 1878 ymlaen, lansiodd yr Ymerawdwr Menelik II gyfres o ymosodiadau o'r enw Ymestyniadau Menelik, a arweiniodd at ffin bresennol Ethiopia. Yn allanol, daeth Cytundeb dadleuol Wuchale yn 1889 i ben gyda chyfres o ryfeloedd pan drechodd Ethiopia yr Eidal yn 1896 yn ystod 'Yr Ymgiprys am Affrica'; gan adael Ethiopia a Liberia fel cenhedloedd Affricanaidd annibynnol. Ym 1935, meddiannwyd Ethiopia gan yr Eidal Ffasgaidd a'i hatodi ag Eritrea a Somaliland a ddaliwyd gan yr Eidal, gan ffurfio Dwyrain Affrica Eidalaidd yn ddiweddarach. Ym 1941, rhyddhaowyd Ethiopia gan uned filwrol Arbegnoch Ethiopia a rhan o fyddin Lloegr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Daeth y Derg, jwnta milwrol gyda chefnogaeth Sofietaidd, i rym ym 1974 ar ôl diorseddu'r Ymerawdwr Haile Selassie a llinach Solomon, gan reoli'r wlad am bron i 17 mlynedd; dyma fan cychwyn Rhyfel Cartref Ethiopia. Yn dilyn trechu'r Derg yn 1991, dominyddwyd y wlad gan Ffrynt Democrataidd Chwyldroadol Pobl Ethiopia (EPRDF) a chrewyd cyfansoddiad newydd a ffederaliaeth ar sail ethnigrwydd. Ers hynny, dioddefodd Ethiopia o wrthdaro rhyng-ethnig hir a oedd heb ei datrys yn 2022 ac ansefydlogrwydd gwleidyddol.

Mae Ethiopia'n wladwriaeth aml-ethnig gyda dros 80 o wahanol grwpiau ethnig, gyda'r mwyafrif yn Gristnogionh ac yn Islamiaid. Yn wahanol i Gymru, mae'r wladwriaeth sofran hon yn aelod sefydlol o'r Cenhedloedd Unedig, y Grŵp o 24 (G-24), y Mudiad Amhleidiol, y G77 a Sefydliad Undod Affrica. Addis Ababa yw pencadlys yr Undeb Affricanaidd, y Siambr Fasnach a Diwydiant Pan-Affricanaidd, Comisiwn Economaidd y Cenhedloedd Unedig dros Affrica, Llu Wrth Gefn Affrica a llawer o'r cyrff anllywodraethol byd-eang sy'n canolbwyntio ar Affrica. Ystyrir Ethiopia'n bŵer sy'n dod i'r amlwg[12][13] ac yn wlad sy'n datblygu, gyda'r twf economaidd cyflymaf yng ngwledydd Affrica Is-Sahara oherwydd buddsoddiad uniongyrchol tramor ar ehangu amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu.[14] Fodd bynnag, o ran incwm y pen a’r Mynegai Datblygiad Dynol,[15] mae'n wlad dlawd, gyda chyfraddau uchel o dlodi,[16] lle torrir llawer o hawliau dynol, a lle ceir cyfradd llythrennedd o 49% yn unig.[17] Amaethyddiaeth yw'r sector mwyaf yn Ethiopia; roedd yn cyfrif am 36 y cant o CMC y wlad yn 2020.[18][19]

Hanes golygu

Cynhanes golygu

 
Penglog hominid yr Homo sapiens idaltu
 
Kibish yw'r safle y ffosil hynaf o esgyrn dynol yn fydeang; credir ei fod yn 195,000 o flynyddoedd oed. Mae gweddillion y benglog yn 40,000 o flynyddoedd yn hŷn nag yn safle archaeolegol Herto, Ethiopia.

Mae nifer o ddarganfyddiadau pwysig wedi gyrru Ethiopia a'r ardal gyfagos i'r blaen o ran paleontoleg. Hyd yn hyn, yr hominid hynaf a ddarganfuwyd yn Ethiopia yw'r Ardipithicus ramidus sy'n 4.2 miliwn oed a ddarganfuwyd yn 1994.[20] Y darganfyddiad hominid mwyaf adnabyddus yw'r Australopithecus afarensis (neu Lucy). Caiff ei adnabod yn lleol fel Dinkinesh, a daethpwyd o hyd i'w hesgyrn yn Nyffryn Awash yn Rhanbarth Afar ym 1974 gan Donald Johanson; mae'n un o’r ffosilau Australopithecaidd mwyaf cyflawn a ddarganfuwyd erioed. Cyfeiria enw tacsonomig Lucy (afar-ensis) at y rhanbarth hwn lle gwnaed y darganfyddiad. Amcangyfrifir iddi fyw 3.2 miliwn o flynyddoedd yn ôl.[21][22][23]

Mae Ethiopia hefyd yn cael ei hystyried yn un o safleoedd cynharaf ymddangosiad bodau dynol fodern, sef yr Homo sapiens. Cloddiwyd yr hynaf o'r darganfyddiadau ffosil lleol hyn, gweddillion Omo, yn ardal de-orllewinol Omo Kibish ac maent wedi'u dyddio i'r Paleolithig Canol, tua 200,000 o flynyddoedd yn ôl.[24] Yn ogystal, darganfuwyd sgerbydau o Homo sapiens idaltu ar safle yn nyffryn Canol Awash. Wedi'u dyddio i tua 160,000 o flynyddoedd yn ôl (CP), gallant gynrychioli isrywogaeth ddiflanedig o Homo sapiens, neu hynafiaid uniongyrchol bodau dynol (anatomegol) fodern.[25] Ers hynny mae ffosilau Homo sapiens hynafol a gloddiwyd ar safle Jebel Irhoud ym Moroco wedi'u dyddio i gyfnod cynharach, sef tua 300,000 o flynyddoedd yn ôl,[26] ond Omo-Kibish I (Omo I) o dde Ethiopia yw'r sgerbwd Homo sapiens modern hynaf yn 2022 (196 ± 5 ka).[27]

Yn ôl rhai ieithyddion, cyrhaeddodd y poblogaethau Affro-asiaidd cyntaf y rhanbarth yn ystod y cyfnod Oes Newydd y Cerrig (sef Neolithig) o'u mamwlad yn Nyffryn y Nîl,[28] neu'r Dwyrain Agos.[29] Cynigia'r mwyafrif o ysgolheigion heddiwbod y teulu Affro-asiaidd o ieithoedd wedi datblygu yng Ngogledd-ddwyrain Affrica oherwydd yr amrywiaeth o linachau pwysig yn y rhanbarth hwnnw: dyma arwydd eitha sicr o darddiad ieithyddol.[30][31][32]

Yn 2019, darganfu archaeolegwyr loches mewn graig sy'n 30,000 oed: o Oes Ganol y Cerrig ar safle Fincha Habera ym Mynyddoedd Bale ar uchder o 3,469 metr uwchben lefel y môr. Ar yr uchder hwn mae pobl yn agored i hypocsia ac i dywydd eithafol. Yn ôl astudiaeth a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Science, honir mai dyma'r aneddiad dynol barhaol gynharaf mor uchel a ddarganfuwyd hyd yma. Darganfuwyd miloedd o esgyrn anifeiliaid, cannoedd o offer carreg, a lleoedd tân hynafol, a thaflwyd golau newydd ar ddiet y brodorion a oedd yn cynnwys llygod-twrch-daear enfawr.[33][34][35][36][37][38][39]

Geirdarddiad golygu

Gair cyfansawdd, Groegaidd yw Αἰθιοπία (o Αἰθίοψ, Aithiops, "Ethiopad") sy'n deillio o'r ddau air Groeg, o αἴθω + ὤψ (aithō "rwy'n llosgi" + ōps "wyneb"). Yn ôl Geiriadur Groeg-Saesneg Liddell-Scott Jones (cydolygydd: Liddell-Scott Jones), mae'r dynodiad yn trosi'n gywir fel Burnt-face fel enw a choch-frown fel ansoddair. Defnyddiodd yr hanesydd Herodotus y gair i ddynodi'r rhannau hynny o Affrica i'r De o'r Sahara a oedd yn cael eu hadnabod bryd hynny o fewn yr Ecwmen (y byd anghyfannedd).[40] Gan fod y Groegiaid yn deall y term fel "wyneb tywyll", rhannwyd yr Ethiopiaid yn ddau, y rhai yn Affrica a'r rhai i'r dwyrain o ddwyrain Twrci i India.[41].

Mewn epigraffau Greco-Rufeinig, roedd Aethiopia yn doponym penodol ar gyfer Nubia hynafol.[42] Mor gynnar â c. 850,[43] mae'r enw Aethiopia i'w gael mewn llawer o gyfieithiadau o'r Hen Destament mewn cyfeiriad at Nubia. Yn y testunau Hebraeg hynafol defnyddir yr enw Kush yn hytrach na Nubia.[44] Fodd bynnag, yn y Testament Newydd, mae'r term Groeg Aithiops i'w weld, gan gyfeirio at un o weision Kandake, brenhines Kush.[45]

Yn Gymraeg (fel y Saesneg), ac yn gyffredinol, y tu allan i Ethiopia, roedd y wlad hon unwaith yn cael ei hadnabod fel Abyssinia. Deilliodd y toponym hwn o ffurf Ladinaidd yr hen Habash.[46]

Crefydd golygu

Mae tua hanner y boblogaeth yn aelodau o Eglwys Uniongred Ethiopia, a'r hanner arall yn ddilynwyr Islam.

Llywodraeth a gwleidyddiaeth golygu

 
Tŷ Cynrychiolwyr y Bobl yw tŷ isaf Cynulliad Seneddol Ffederal Ethiopia

Gweriniaeth seneddol ffederal yw Ethiopia, lle mae'r Prif Weinidog yn bennaeth ar y llywodraeth, a'r Arlywydd yn bennaeth ar y wladwriaeth, ond gyda phwerau seremonïol yn bennaf. Mae pŵer gweithredol yn cael ei arfer gan y llywodraeth a phŵer deddfwriaethol ffederal a freiniwyd yn y llywodraeth a dwy siambr y senedd. Tŷ'r Ffederasiwn yw siambr uchaf y ddeddfwrfa bicameral gyda 108 o seddi, a'r siambr isaf yw Tŷ Cynrychiolwyr y Bobl (HoPR) gyda 547 o seddi. Dewisir Tŷ’r Ffederasiwn gan y cynghorau rhanbarthol tra bod Aelodau Seneddol yr HoPR yn cael eu hethol yn uniongyrchol; yn eu tro, maent yn ethol yr arlywydd am dymor o chwe blynedd a’r prif weinidog am dymor o 5 mlynedd.

Ar sail Erthygl 78 o Gyfansoddiad Ethiopia 1994, mae'r Farnwriaeth yn gwbl annibynnol o'r weithrediaeth (yr ecseciwtif) a'r ddeddfwrfa.[47] Er mwyn sicrhau hyn, penodir yr is-lywydd a Llywydd y Goruchaf Lys gan y Senedd ar enwebiad gan y Prif Weinidog. Unwaith y caiff ei ethol, nid oes gan y weithrediaeth unrhyw awdurdod i'w ddiswyddo. Mae barnwyr eraill yn cael eu henwebu gan y Cyngor Gweinyddol Barnwrol Ffederal (Federal Judicial Administrative Counci; FJAC) ar sail meini prawf tryloyw ac argymhelliad y Prif Weinidog ar gyfer penodi i'r HoPR. Ym mhob achos, ni all barnwyr gael eu tynnu oddi ar eu dyletswydd oni bai eu bod wedi ymddeol, yn torri rheolau disgyblaeth, yn anghydnaws difrifol, neu'n aneffeithlon-anabl oherwydd afiechyd. I'r gwrthwyneb, mae gan bleidlais fwyafrifol HoPR yr hawl i ddileu sancsiwn ar lefel y farnwriaeth ffederal neu gyngor y wladwriaeth mewn achosion o farnwyr y wladwriaeth.[48] Yn 2015, cwestiynwyd dilysrwydd y ddarpariaeth hon mewn adroddiad a baratowyd gan Freedom House.[49]

Yn ôl y Mynegai Democratiaeth a gyhoeddwyd gan yr Economist Intelligence Unit yn y Deyrnas Unedig ddiwedd 2010, roedd Ethiopia yn “gyfundrefn awdurdodaidd” ("authoritarian regime"), yn safle 118 o blith 167 o wledydd y byd.[50] Roedd Ethiopia wedi gostwng 12 lle ar y rhestr ers 2006, ac roedd adroddiad o 2010 yn priodoli’r gostyngiad hwn i frwydr y llywodraeth ar weithgareddau’r gwrthbleidiau, y cyfryngau, a chymdeithasau sifil cyn etholiad seneddol 2010, y dadleuodd yr adroddiad ei fod wedi gwneud Ethiopia yn wladwriaeth un blaid de facto. Fodd bynnag, ers penodi Abiy Ahmed yn brif weinidog yn 2018, mae'r sefyllfa wedi newid er gwell.[angen ffynhonnell]

Milwrol golygu

Llu Amddiffyn Cenedlaethol Ethiopia yw'r fyddin fwyaf yn Affrica [51] ac fe'i cyfarwyddir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae canghennau milwrol eraill yn cynnwys gwŷr traed, llu awyr a llu llynges. Ers 1996, nid oes gan Ethiopia dirgaeedig unrhyw lynges ond yn 2018 dywedodd y Prif Weinidog Abiy Ahmed ar deledu’r wladwriaeth: “Fe wnaethon ni adeiladu un o’r lluoedd daear (gwŷr traed) ac awyr (awyrlu) cryfaf yn Affrica ... dylem adeiladu llynges yn y dyfodol."[52]

Gorfodi'r gyfraith golygu

Mae'r cyfansoddiad yn gwarantu gorfodi'r gyfraith i Heddlu Ffederal Ethiopia (EFP). Mae'r EFP yn gyfrifol am ddiogelu a lles y cyhoedd ar lefel ffederal. Wedi'i sefydlu ym 1995, arolygwyd yr heddlu ffederal gan Gomisiynydd yr Heddlu Ffederal ers Hydref 2000; yna mae'r Comisiynydd Heddlu Ffederal yn adrodd i'r Weinyddiaeth AmddiffynMae gan yr heddlu ffederal y gallu i benodi comisiynau heddlu rhanbarthol, i'w cynorthwyo. Yn annibynnol, mae'r milisia lleol yn cynnal diogelwch yr ardal leol. 

Y dyddiau hyn, mae llwgrwobrwyo yn bryder sylfaenol, yn enwedig gan yr heddlu traffig. Roedd creulondeb yr heddlu yn ymddangos yr un mor ddifrifol yn ystod y 2000-20au. Ar 26 Awst 2019, aeth fideo o ddyn â gefynnau yn cael ei guro gan ddau heddwas yn Addis Ababa yn feiral. Dywedir bod camymddwyn diweddar gan yr heddlu yn fethiant gan Gomisiynydd yr Heddlu Ffederal i gadw at Erthygl 52 o'r cyfansoddiad, sy'n nodi ymchwiliad i ddefnydd anghyfreithlon o rym, a diswyddo'r swyddog sy'n camymddwyn.[53]

Hawliau Dynol golygu

Mae troseddu yn erbyn hawliau dynol yn aml yn cyd-fynd a dioddef trais ethnig a chymunedol yn y wlad.[54] Mewn gwrthdystiad yn 2016, cafodd 100 o brotestwyr heddychlon eu lladd gan y llywodraeth yn rhanbarthau Oromia ac Amhara.[55] Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi galw ar ei harsylwyr ar lawr gwlad yn Ethiopia i ymchwilio i'r digwyddiad hwn,[56] fodd bynnag mae llywodraeth Ethiopia a arweinir gan EPRDF wedi gwrthod yr alwad hon.[57] Mae’r protestwyr yn protestio yn erbyn tir-gipio a diffyg hawliau dynol sylfaenol fel y rhyddid i ethol eu cynrychiolwyr mewn etholiad. Enillodd yr EPRDF a ddominyddir gan TPLF 100% mewn etholiad llawn twyll; mae hyn wedi arwain at brotestiadau ar raddfa nas gwelwyd mewn cyn hynny.[58]

Yn ôl arolygon yn 2003 gan y Pwyllgor Cenedlaethol ar Arferion Traddodiadol yn Ethiopia, mae priodas trwy gipio merched yn cyfrif am 69% o briodasau'r wlad, gyda thua 80% yn Oromia, a 92% yng Nghenhedloedd y De a Rhanbarth y Bobl.[59][60] Mae newyddiadurwyr ac actifyddion wedi cael eu bygwth neu eu harestio am eu darllediadau o bandemig COVID-19 yn Ethiopia.[61]

Hawliau LHDT golygu

Mae gweithredoedd cyfunrywiol yn anghyfreithlon yn Ethiopia. Yn ôl cod cosbi Erthygl 629, mae gweithgaredd rhwng pobl o'r un rhyw yn cael eu cosbi am rhwng 15 mlynedd i fywyd yn y carchar.[62] Mae Ethiopia wedi bod yn wlad geidwadol, yngymdeithasol ac mae mwyafrif y bobl casau pobl LHDT ac mae erledigaeth yn gyffredin ar sail normau crefyddol a chymdeithasol. Daeth cyfunrywioldeb i’r amlwg yn y wlad ers methiant apêl 2008 i Gyngor y Gweinidogion, a dechreuodd LGBT ffynnu rhyw ychydig mewn dinasoedd metropolitan mawr, fel Addis Ababa.[63]

Adrannau gweinyddol golygu

 
Map o ranbarthau a pharthau Ethiopia

Cyn 1996, rhannwyd Ethiopia yn un-de-tri talaith, llawer ohonynt yn deillio o ranbarthau hanesyddol. Bellach mae gan y genedl system lywodraethol haenog sy'n cynnwys llywodraeth ffederal sy'n goruchwylio taleithiau rhanbarthol, parthau, ardaloedd (woreda), a chebelau ("cymdogaethau"). 

Rhennir Ethiopia yn un-deg-un talaith rhanbarthol ethnig ymreolaethol (Kililoch; unigol cilil) a dwy ddinas siartredig: Addis Ababa a Dire Dawa. Rhennir y cilloch yn chwe deg wyth parth, ac yna ymhellach yn 550 woredas a sawl woreda arbennig. 

Mae'r cyfansoddiad yn neilltuo pŵer helaeth i wladwriaethau rhanbarthol, a all sefydlu eu llywodraeth a'u democratiaeth eu hunain cyn belled â'i fod yn unol â chyfansoddiad y llywodraeth ffederal. Mae gan bob rhanbarth ar ei frig gyngor rhanbarthol lle caiff aelodau eu hethol yn uniongyrchol i gynrychioli'r rhanbarthau ac mae gan y cyngor bŵer deddfwriaethol a gweithredol i gyfarwyddo materion mewnol y rhanbarthau. 

Ar ben hynny, mae Erthygl 39 o Gyfansoddiad Ethiopia yn rhoi'r hawl i bob gwladwriaeth ranbarthol ymwahanu o Ethiopia. Ceir dadl, fodd bynnag, ynghylch faint o’r pŵer a warantir yn y cyfansoddiad sy’n cael ei roi i’r gwladwriaethau mewn gwirionedd. Mae'r cynghorau yn rhoi eu mandad ar waith drwy bwyllgor gwaith a chanolfannau sectoraidd rhanbarthol. Ceir strwythur cywrain o sefydliadau cyhoeddus, cynghorau, ecseciwtif a'r sector gyhoeddus sy'n cael ei ailadrodd ar y lefel nesaf (y woreda). 

Daearyddiaeth golygu

Yn 426,372.61 milltir sgwar (1,104,300 km2),[64] Ethiopia oedd 28ain wlad fwyaf yn y byd yn 2022, sy'n debyg o ran maint i Bolifia.

Gorwedd rhan fawr o Ethiopia yng Nghorn Affrica, sef y rhan fwyaf dwyreiniol o dir Affrica. Y tiriogaethau sydd â ffiniau ag Ethiopia yw Eritrea i'r gogledd ac yna, gan symud i gyfeiriad clocwedd, Djibouti, Somaliland, Somalia, Kenya, De Swdan a Swdan. O fewn Ethiopia ceir ucheldir eang o fynyddoedd a llwyfandiroedd dyranedig wedi'u rhannu gan Ddyffryn yr Hollt Enfawr (Great Rift Valley), sy'n gorwedd o'r de-orllewin i'r gogledd-ddwyrain ac wedi'i amgylchynu gan iseldiroedd, paith, neu led-anialwch. Mae yna amrywiaeth eang o dir gydag amrywiadau eang o wahanol hinsawdd, priddoedd, llystyfiant naturio a phatrymau anheddu.

Mae Ethiopia yn wlad ecolegol amrywiol, sy'n amrywio o'r anialwch ar hyd y ffin ddwyreiniol i'r coedwigoedd trofannol yn y de i'r Afromontane helaeth yn y rhannau gogleddol a de-orllewinol. Llyn Tana yn y gogledd yw tarddiad y Nîl Las. Mae ganddi hefyd lawer o rywogaethau endemig, yn enwedig y gelada, y creigafr (ibecs) a blaidd Ethiopia (Canis simensis). Mae'r amrywiaeth uchder wedi rhoi amrywiaeth o ardaloedd ecolegol unigryw i'r wlad, ac mae hyn wedi helpu i annog esblygiad rhywogaethau endemig mewn unigeddau ecolegol.

Hinsawdd golygu

 
Dosbarthiad hinsawdd Köppen o Ethiopia

Y math pennaf o hinsawdd yw'r monsŵn trofannol, gyda nifer o amrywiadau a achosir gan y tirffurfiau. Mae Ucheldir Ethiopia yn gorchuddio'r rhan fwyaf o'r wlad ac mae gan y mynyddoedd hyn hinsawdd sydd ar y cyfan yn llawer oerach na rhanbarthau eraill sy'n debyg iawn i'r Cyhydedd. Mae'r rhan fwyaf o ddinasoedd mawr y wlad wedi'u lleoli ar uchder o tua 2,000-2,500 metr uwch lefel y môr, gan gynnwys prifddinasoedd hanesyddol fel Gondar ac Axum.

Mae'r brifddinas fodern, Addis Ababa, wedi'i lleoli ar odre Mynydd Entoto ar uchder o tua 2,400 metr ac mae'n profi hinsawdd fwyn trwy gydol y flwyddyn. Gyda thymheredd gweddol unffurf trwy gydol y flwyddyn, mae'r tymhorau yn Addis Ababa yn cael eu diffinio'n bennaf gan lawiad: tymor sych o Hydref i Chwefror, tymor glawog ysgafn o Fawrth i Fai, a thymor glawog trwm o Fehefin i Fedi. Y glawiad blynyddol cyfartalog yw tua 1,200 mm. Er mwyn cymharu, y man gwlypaf yng Nghymru yw'r Crib Goch yn Eryri, Gwynedd lle ceir 4,473 mm o law ar gyfartaledd, y flwyddyn.

Ar gyfartaledd ceir saith awr o heulwen y dydd. Y tymor sych yw'r amser mwyaf heulog o'r flwyddyn, er hyd yn oed ar anterth y tymor glawog yma yng Ngorffennaf ac Awst ceir sawl awr o heulwen braf pob dydd. Y tymheredd blynyddol cyfartalog yn Addis Ababa yw 16 °C (60.8 °F), gyda thymheredd uchaf dyddiol ar gyfartaledd o rhwng 20–25 °C (68.0–77.0 °F) trwy gydol y flwyddyn, ac isafbwyntiau dros nos o 5–10 °C (41.0–50.0 °F) ar gyfartaledd.

Mae Ethiopia yn agored i lawer o effeithiau newid hinsawdd ee cynnydd mewn tymheredd a newidiadau mewn dyodiad. Mae newid yn yr hinsawdd yn bygwth diogelwch bwyd a'r economi, sy'n seiliedig ar amaethyddiaeth.[65] Gorfodwyd llawer o Ethiopiaid i adael eu cartrefi a theithio cyn belled â'r Gwlff, De Affrica ac Ewrop.[66]

Ers Ebrill 2019, mae Prif Weinidog Ethiopia, Abiy Ahmed, wedi hyrwyddo prosiect a elwir yn Beautifying Sheger, sy'n ceisio lleihau effeithiau negyddol newid hinsawdd - ymhlith pethau eraill - yn y brifddinas Addis Ababa.[67] Y Mai canlynol, cynhaliodd y llywodraeth "Dine for Sheger", digwyddiad codi arian er mwyn talu rhywfaint o'r $1. biliwn sydd ei angen drwy'r cyhoedd.[68] Codwyd $25 miliwn drwy'r gost o fynychu'r digwyddiad a rhoddion.[69][70]

Darllen pellach golygu

  • Zewde, Bahru (2001). A History of Modern Ethiopia, 1855–1991 (arg. 2nd). Athens, OH: Ohio University Press. ISBN 978-0-8214-1440-8.
  • Selassie I., Haile (1999). My Life and Ethiopia's Progress: The Autobiography of Emperor Haile Selassie I. Translated by Edward Ullendorff. Chicago: Frontline. ISBN 978-0-948390-40-1.
  • Deguefé, Taffara (2006). Minutes of an Ethiopian Century, Shama Books, Addis Ababa, ISBN 99944-0-003-7.
  • Hugues Fontaine, Un Train en Afrique. African Train, Centre Français des Études Éthiopiennes / Shama Books. Édition bilingue français / anglais. Traduction : Yves-Marie Stranger. Postface : Jean-Christophe Belliard. Avec des photographies de Matthieu Germain Lambert et Pierre Javelot. Addis Abeba, 2012, ISBN 978-99944-867-1-7. English and French. UN TRAIN EN AFRIQUE
  • Henze, Paul B. (2004). Layers of Time: A History of Ethiopia. Shama Books. ISBN 978-1-931253-28-4.
  • Marcus, Harold G. (1975). The Life and Times of Menelik II: Ethiopia, 1844–1913. Oxford: Clarendon. Reprint, Trenton, NJ: Red Sea, 1995. ISBN 1-56902-009-4.
  • Marcus, Harold G. (2002). A History of Ethiopia (arg. updated). Berkeley: University of California Press. ISBN 978-0-520-22479-7.
  • Mauri, Arnaldo (2010). Monetary developments and decolonization in Ethiopia, Acta Universitatis Danubius Œconomica, VI, n. 1/2010, pp. 5–16. Monetary Developments and Decolonization in Ethiopia and WP Monetary developments and decolonization in Ethiopia
  • Campbell, Gwyn; Miers, Suzanne; Miller, Joseph (2007). Women and Slavery: Africa, the Indian Ocean world, and the medieval north Atlantic. Ohio University Press. ISBN 978-0-8214-1723-2.
  • Mockler, Anthony (1984). Haile Selassie's War. New York: Random House. Reprint, New York: Olive Branch, 2003. ISBN 0-902669-53-2.
  • Murphy, Dervla (1968). In Ethiopia with a Mule. London: Century, 1984, cop. 1968. N.B.: An account of the author's travels in Ethiopia. 280 p., ill. with a b&w map. ISBN 0-7126-3044-9
  • Rubenson, Sven (2003). The Survival of Ethiopian Independence (arg. 4th). Hollywood, CA: Tsehai. ISBN 978-0-9723172-7-6.
  • Siegbert Uhlig, et al. (eds.) (2003). Encyclopaedia aethiopica, Vol. 1: A–C. Wiesbaden: Harrassowitz Verlag.
  • Siegbert Uhlig, et al. (eds.) (2005). Encyclopaedia aethiopica, Vol. 2: D–Ha. Wiesbaden: Harrassowitz Verlag.
  • Siegbert Uhlig, et al. (eds.) (2007). Encyclopaedia aethiopica, Vol. 3: He–N. Wiesbaden: Harrassowitz Verlag.
  • Siegbert Uhlig & Alessandro Bausi, et al. (eds.) (2010). Encyclopaedia aethiopica, Vol. 4: O–X. Wiesbaden: Harrassowitz Verlag.
  • Alessandro Bausi & S. Uhlig, et al. (eds.) (2014). Encyclopaedia aethiopica, Vol. 5: Y–Z and addenda, corrigenda, overview tables, maps and general index. Wiesbaden: Harrassowitz Verlag.
  • Nodyn:Country study
  • Nodyn:CIA World Factbook
  • Keller, Edmond (1991). Revolutionary Ethiopia From Empire to People's Republic. Indiana University Press. ISBN 9780253206466.

Cyfeiriadau golygu

  1. "ABYSSINIA - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1867-04-05. Cyrchwyd 2022-06-24.
  2. https://data.worldbank.org/indicator/SP.POP.TOTL. dyddiad cyrchiad: 8 Ebrill 2019.
  3. "Population Projections for Ethiopia 2007–2037". www.csa.gov.et. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 August 2020. Cyrchwyd 25 September 2020.
  4. "Ethiopia". The World Factbook. CIA. Cyrchwyd 5 April 2021.
  5. Hopkin, Michael (16 February 2005). "Ethiopia is top choice for cradle of Homo sapiens". Nature. doi:10.1038/news050214-10.
  6. Li, J.Z.; Absher, D.M.; Tang, H.; Southwick, A.M.; Casto, A.M.; Ramachandran, S.; Cann, H.M.; Barsh, G.S. et al. (2008). "Worldwide Human Relationships Inferred from Genome-Wide Patterns of Variation". Science 319 (5866): 1100–04. Bibcode 2008Sci...319.1100L. doi:10.1126/science.1153717. PMID 18292342.
  7. "Humans Moved From Africa Across Globe, DNA Study Says". Bloomberg News. 21 February 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 June 2011. Cyrchwyd 16 March 2009.
  8. Kaplan, Karen (21 February 2008). "Around the world from Addis Ababa". Los Angeles Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 June 2013. Cyrchwyd 16 March 2009.
  9. Ehret, Christopher (1979). "On the Antiquity of Agriculture in Ethiopia". Journal of African History 20 (2): 161–177. doi:10.1017/S002185370001700X. JSTOR 181512. https://www.jstor.org/stable/181512.
  10. Blench, Roger (2006). Archaeology, Language, and the African Past (yn English). AltaMira Press. tt. 150–163. ISBN 978-0759104662.CS1 maint: unrecognized language (link)
  11. "Ethnicity and Power in Ethiopia" (PDF). 12 April 2022.
  12. "5 reasons why Ethiopia could be the next global economy to watch". World Economic Forum (yn Saesneg). Cyrchwyd 10 March 2022.
  13. Africa, Somtribune (29 August 2020). "Ethiopia Can Be Africa's Next Superpower". SomTribune (yn Saesneg). Cyrchwyd 10 March 2022.
  14. "Overview". World Bank (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-06-13.
  15. "Overview". World Bank (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 December 2021.
  16. "Ethiopia Poverty Assessment". World Bank (yn Saesneg). Cyrchwyd 17 December 2018.
  17. "Major problems facing Ethiopia today". Africaw.
  18. "Ethiopia: Share of economic sectors in the gross domestic product (GDP) from 2010 to 2020". Statista.
  19. "Agriculture in Ethiopia: data shows for a large part Agriculture still retained its majority share of the economy". The Low Ethiopian Reports.
  20. Ansari, Azadeh (7 October 2009). "Oldest human skeleton offers new clues to evolution". CNN.com/technology. Cyrchwyd 2 March 2011.
  21. "Mother of man – 3.2 million years ago". Bbc.co.uk. Cyrchwyd 16 March 2009.
  22. Johanson, Donald C.; Wong, Kate (2010). Lucy's Legacy: The Quest for Human Origins. Crown Publishing Group. tt. 8–9. ISBN 978-0-307-39640-2.
  23. "Institute of Human Origins: Lucy's Story". 15 June 2016. Cyrchwyd 23 March 2017.
  24. Mcdougall, I.; Brown, H.; Fleagle, G. (Feb 2005). "Stratigraphic placement and age of modern humans from Kibish, Ethiopia". Nature 433 (7027): 733–36. Bibcode 2005Natur.433..733M. doi:10.1038/nature03258. PMID 15716951.
  25. White, T.D.; Asfaw, B.; Degusta, D.; Gilbert, H.; Richards, G.D.; Suwa, G.; Clark Howell, F. (2003). "Pleistocene Homo sapiens from Middle Awash, Ethiopia". Nature 423 (6941): 742–47. Bibcode 2003Natur.423..742W. doi:10.1038/nature01669. PMID 12802332.
  26. Callaway, Ewan (7 June 2017). "Oldest Homo sapiens fossil claim rewrites our species' history". Nature. doi:10.1038/nature.2017.22114. http://www.nature.com/news/oldest-homo-sapiens-fossil-claim-rewrites-our-species-history-1.22114. Adalwyd 5 July 2017.
  27. Hammond, Ashley S.; Royer, Danielle F.; Fleagle, John G. (Jul 2017). "The Omo-Kibish I pelvis". Journal of Human Evolution 108: 199–219. doi:10.1016/j.jhevol.2017.04.004. ISSN 1095-8606. PMID 28552208.
  28. Zarins, Juris (1990). "Early Pastoral Nomadism and the Settlement of Lower Mesopotamia". Bulletin of the American Schools of Oriental Research 280 (280): 31–65. doi:10.2307/1357309. JSTOR 1357309.
  29. Diamond, J.; Bellwood, P. (2003). "Farmers and Their Languages: The First Expansions". Science 300 (5619): 597–603. Bibcode 2003Sci...300..597D. doi:10.1126/science.1078208. JSTOR 3834351. PMID 12714734. http://faculty.bennington.edu/%7Ekwoods/classes/enviro-hist/diamond%20agriculture%20and%20language.pdf. Adalwyd 2022-06-24.
  30. Blench, R. (2006). Archaeology, Language, and the African Past. Rowman Altamira. tt. 143–44. ISBN 978-0-7591-0466-2.
  31. Güldemann, Tom (2018). The Languages and Linguistics of Africa (yn Saesneg). De Gruyter Mouton. t. 311. ISBN 9783110426069.
  32. Campbell, Lyle (2021). Historical Linguistics, Fourth Edition (yn English). The MIT Press. tt. 399–400. ISBN 978-0262542180.CS1 maint: unrecognized language (link)
  33. Zimmer, Carl (8 August 2019). "In the Ethiopian Mountains, Ancient Humans Were Living the High Life". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 16 August 2019.
  34. Katz, Brigit. "Archaeologists Uncover Evidence of an Ancient High-Altitude Human Dwelling". Smithsonian (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 August 2019.
  35. Smith, Kiona N. (9 August 2019). "The first people to live at high elevations snacked on giant mole rats". Ars Technica (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 August 2019.
  36. History, Charles Q. Choi 2019-08-09T12:59:10Z (9 August 2019). "Earliest Evidence of Human Mountaineers Found in Ethiopia". livescience.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 August 2019.
  37. Dvorsky, George (9 August 2019). "This Rock Shelter in Ethiopia May Be the Earliest Evidence of Humans Living in the Mountains". Gizmodo (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 August 2019.
  38. "Earliest evidence of high-altitude living found in Ethiopia". UPI (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 August 2019.
  39. Miehe, Georg; Opgenoorth, Lars; Zech, Wolfgang; Woldu, Zerihun; Vogelsang, Ralf; Veit, Heinz; Nemomissa, Sileshi; Negash, Agazi et al. (9 August 2019). "Middle Stone Age foragers resided in high elevations of the glaciated Bale Mountains, Ethiopia" (yn en). Science 365 (6453): 583–587. Bibcode 2019Sci...365..583O. doi:10.1126/science.aaw8942. ISSN 0036-8075. PMID 31395781.
  40. For all references to Ethiopia in Herodotus, see: this list at the Perseus Project.
  41. Homer, Odyssey 1.22-4.
  42. Hatke, George (2013). Aksum and Nubia: Warfare, Commerce, and Political Fictions in Ancient Northeast Africa. NYU Press. tt. 52–53. ISBN 978-0-8147-6066-6.
  43. Etymologicum Genuinum s.v. Αἰθιοπία; see also Aethiopia
  44. Cp. Ezekiel 29:10
  45. Acts 8:27
  46. Schoff, Wilfred Harvey (1912). The Periplus of the Erythraean Sea: travel and trade in the Indian Ocean. Longmans, Green, and Co. t. 62. Cyrchwyd 28 September 2016.
  47. "Constitution of Ethiopia – 8 December 1994". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 May 2008.
  48. Ethiopia – Country Governance Profile EN.pdf. OSGE and OREB. March 2009. t. 14.
  49. "Ethiopia | Country report | Freedom in the World | 2015". freedomhouse.org. 21 January 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 January 2017. Cyrchwyd 8 January 2017.
  50. The Economist Intelligence Unit's Index of Democracy 2010. (PDF). Retrieved on 3 March 2012.
  51. "Dangerous trends in Ethiopia: Time for Washington's tough love". Brookings (yn Saesneg). 9 August 2021. Cyrchwyd 25 December 2021.
  52. Olewe, Dickens (14 June 2018). "Why landlocked Ethiopia wants to launch a navy" (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 July 2019.
  53. Woubshet, Ayele (14 August 2020). "Our 'protectors' in blue: Police brutality and misconduct in Ethiopia". Ethiopia Insight (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 January 2022.
  54. "Ethiopia 'at a crossroads' amid spiraling ethnic conflict". AP NEWS (yn Saesneg). 4 May 2021. Cyrchwyd 21 October 2021.
  55. "Ethiopia Grapples with the Aftermath of a Deadly Weekend". NPR.org. Cyrchwyd 2 May 2017.
  56. "UN calls for probe into Ethiopia protesters killings". www.aljazeera.com. Cyrchwyd 2 May 2017.
  57. "Ethiopia says UN observers not needed as protests rage". www.aljazeera.com. Cyrchwyd 2 May 2017.
  58. "Ethiopia's battle for land reforms could lead to civil war: opposition leader". Reuters. 11 August 2016. Cyrchwyd 8 May 2017.
  59. "Youth in Crisis: Coming of age in the 21st century". Office for the Coordination of Humanitarian Affairs. 23 February 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 December 2010. Cyrchwyd 14 June 2012.
  60. "UNICEF supports fight to end marriage by abduction in Ethiopia". reliefweb.int. 9 November 2004. Cyrchwyd 29 August 2013.
  61. "Ethiopia: Free Speech at Risk Amid Covid-19". Human Rights Watch. 6 May 2020.
  62. "Here are the 10 countries where homosexuality may be punished by death". The Washington Post. 16 June 2016.
  63. Baker, Katie (12 December 2013). "'A Graveyard for Homosexuals'". Newsweek (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 December 2021.
  64. "CIA World Factbook – Rank Order – Area". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 February 2014. Cyrchwyd 2 February 2008.
  65. Gezie, Melese (1 January 2019). Moral, Manuel Tejada. ed. "Farmer's response to climate change and variability in Ethiopia: A review". Cogent Food & Agriculture 5 (1): 1613770. doi:10.1080/23311932.2019.1613770.
  66. "Ethiopia, Climate Change and Migration: A little more knowledge and a more nuanced perspective could greatly benefit thinking on policy – Ethiopia". ReliefWeb (yn Saesneg). Cyrchwyd 28 November 2020.
  67. Dahir, Abdi Latif. "Ethiopia is launching a global crowdfunding campaign to give its capital a green facelift". Quartz Africa (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 May 2019.
  68. "Ethiopia PM hosts 'most expensive dinner'" (yn Saesneg). 20 May 2019. Cyrchwyd 23 May 2019.
  69. AfricaNews (14 May 2019). "Ethiopia PM raises over $25m for project to beautify Addis Ababa". Africanews (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 May 2019.
  70. Addisstandard (25 April 2019). "News: China's reprieve on interest-free loan only". Addis Standard (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 May 2019.