Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, 2012

Cynhaliwyd etholiad arlywyddol yn yr Unol Daleithiau ar Ddydd Mawrth, 6 Tachwedd 2012. Hon oedd y 57fed etholiad arlywyddol a gynhelir bob pedair blynedd i'r Coleg Etholiadol ethol arlywydd ac is-arlywydd, a bydd y Coleg yn gwneud hynny'n swyddogol ar 17 Rhagfyr 2012. Ymgyrchodd deiliad yr arlywyddiaeth, y Democratwr Barack Obama, am ail dymor.[1] Ei brif wrthwynebydd oedd cyn-Lywodraethwr Massachusetts, y Gweriniaethwr Mitt Romney.[2] Dim ond pedwar ymgeisydd arall oedd ag unrhyw siawns o ennill mwyafrif o'r coleg etholiadol (270 o bleidleisiau): cyn-Lywodraethwr New Mexico, y Rhyddewyllysiwr Gary Johnson;[3] Jill Stein, enwebiad y Blaid Werdd,[4] Virgil Goode, ymgeisydd y Blaid Gyfansoddiadol, a Rocky Anderson, ymgeisydd y Blaid Gyfiawnder.[5] Er ei bod yn annhebygol iawn y byddai un o'r pedwar yma'n ennill yr etholiad, roedd yn bosib iddynt effeithio ar bleidleisiau Romney ac Obama.[6]

Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, 2012

← 2008 8 Tachwedd 2016 2016 →

538 aelod o'r Coleg Etholiadol
270 pleidlais i ennill
 
Nominee Barack Obama Mitt Romney
Plaid Democratiaid Gweriniaethwyr
Home state Illinois Massachusetts
Partner Joe Biden Paul Ryan
Projected electoral vote 332 206
States carried 26 + DC 24
Poblogaidd boblogaith 65,915,795 60,933,504
Canran 51.1% 47.2%

ElectoralCollege2012
Map o ganlyniadau'r etholiad. Coch: Romney a Ryan. Glas: Obama a Biden. Nifer canlyniadau'r cynrychiolwyr yw'r rhifau; po fwyaf y boblogaeth, mwyaf yw'r nifer o gynrychiolwyr sydd gan y Dalaith.

Arlywydd cyn yr etholiad

Barack Obama
Democratiaid

Arlywydd

Barack Obama
Democratiaid

Cafwyd tair dadl arlywyddol rhwng Obama a Romney, ac un ddadl is-arlywyddol rhwng Joe Biden, cydymgeisydd Obama, a Paul Ryan, cydymgeisydd Romney. Yn yr wythnos cyn yr etholiad, ymyrrodd Corwynt Sandy ar yr ymgyrch a gohiriodd Obama a Romney rhai digwyddiadau.[7] Wrth nesáu at ddiwrnod yr etholiad roedd y canlyniad yn rhy agos i ragfynegi ac yn ddibynnol ar naw talaith allweddol, ond yn ôl nifer o bolau piniwn roedd Obama ar y blaen o drwch blewyn.[8]

Cafodd Obama ei ail-ethol wedi iddo sicrhau 270 o bleidleisiau'r Coleg Etholiadol.[9][10] Fflorida, un o'r taleithiau allweddol, oedd yr olaf i ddatgan canlyniadau ei phleidleisiau i'r Coleg Etholiadol ar 10 Tachwedd, a hynny o blaid Obama gan roi iddo gyfanswm o 332 o bleidleisiau'r Coleg o gymharu â 206 gan Romney. O ran y bleidlais boblogaidd, enillodd Obama 50% o'r bleidlais o gymharu â 49.1% gan Romney, mwyafrif o 74,000 o bleidleisiau.[11]

Cyfeiriadau golygu

  1. Siegel, Elyse (4 Ebrill 2011). "Barack Obama 2012 Campaign Officially Launches". The Huffington Post. Cyrchwyd 4 Ebrill 2011.
  2. Holland, Steve (30 Mai 2012) "Romney clinches Republican 2012 nomination in Texas" Archifwyd 2015-09-24 yn y Peiriant Wayback., Reuters. Retrieved 30 Mai 2012.
  3. "Libertarians nominate ex-Governor Gary Johnson for president". Reuters. 5 Mai 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-06. Cyrchwyd 6 Mai 2012.
  4. "Mass. doctor Jill Stein wins Green Party's presidential nod". USA Today. Associated Press. 14 Gorffennaf 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2012.
  5. Dance, George (15 Hydref 2012). "Third-Party Presidential Debate October 23, 2012". Nolan Chart. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-12. Cyrchwyd 17 Hydref 2012.
  6. Cohen, Time (26 Hydref 2012). "Little-known candidates could harm Romney, Obama bids". CNN. Cyrchwyd 29 Hydref 2012.
  7.  Obama yn gohirio rali etholiadol yn Fflorida. Golwg360 (29 Hydref 2012). Adalwyd ar 11 Tachwedd 2012.
  8.  Etholiad America – Obama fymryn ar y blaen?. Golwg360 (3 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 11 Tachwedd 2012.
  9.  Barack Obama yn cael ei ailethol yn Arlywydd America. BBC (7 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 7 Tachwedd 2012.
  10.  Obama: ‘Mae’r gorau eto i ddod’. Golwg360 (7 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 7 Tachwedd 2012.
  11.  Obama’n ychwanegu Florida at ei fuddugoliaeth. Golwg360 (10 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 11 Tachwedd 2012.