Etholiadau yng Nghymru

Mae gan Gymru etholiadau i dair haen lywodraethol: 22 o awdurdodau unedol lleol, Senedd Cymru a Senedd y Deyrnas Unedig.

Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres:

Gwleidyddiaeth
Cymru




gweld  sgwrs  golygu

Llywodraeth leol golygu

Cynhalir etholiadau i 22 awdurdod unedol lleol Cymru pob pedair mlynedd. Defnyddir y system etholiadol gyntaf i'r felin.

Senedd Cymru golygu

Cynhelir etholiadau i'r Senedd Cymru pob pum mlynedd i ethol 60 o Aelodau o'r Senedd. Mae gan bledileiswyr ddwy bleidlais: un sy'n dewis 40 o ASau mewn etholaethau unigol trwy'r system gyntaf i'r felin, ac un sy'n dewis 20 o ASau ar gyfer y rhanbarthau (Dwyrain De Cymru, Canol De Cymru, Gorllewin De Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gogledd Cymru) – etholir pedwar AS, gan ddefnyddio dull D'Hondt, system ethol gynrychioladol.

Senedd y Deyrnas Unedig golygu

Mae pleidleiswyr yng Nghymru yn ethol 40 o Aelodau Seneddol i Dŷ'r Cyffredin pob pedair mlynedd mewn etholiad cyffredinol Prydeinig. Am ASau Cymru, gweler Rhestr aelodau seneddol Cymru.

Senedd Ewrop golygu

Roedd Cymru yn ethol cynrychiolwyr i Senedd Ewrop ond ers i'r Deyrnas Unedig gadael yr Undeb Ewropeaidd yn Ionawr 2020 nid yw ganddi aelodau pellach. Roeddent arfer ethol 4 cynrychiolwyr gan ddefnyddio dull D'Hondt yn yr etholaeth Cymru.

Gweler hefyd golygu