Eugenius Vulgarius

Roedd Eugenius Vulgarius (fl. c. 907) yn fardd ac ysgolhaig yn yr iaith Ladin, yn enedigol o'r Eidal.

Eugenius Vulgarius
Ganwyd9 g Edit this on Wikidata
Galwedigaethoffeiriad Catholig, bardd Edit this on Wikidata

Ychydig sy'n hysbys amdano ar wahân i'r hyn y gellir ei gasglu o'i waith llenyddol. Roedd yn ysgolhaig ymroddgar ond ofnus a edmygai'n fawr y llenor Rhufeinig Seneca ac a freuddwydiai am ddychweliad yr Oes Aur pan deyrnasai Charlemagne ac roedd llenyddiaeth glasurol yn cael ei pharchu. Cyfansoddodd sawl telyneg Ladin.

Synod y Corff Marw golygu

 
Synod y Corff Marw (Jean Paul Laurens, 1870)

Ymddengys iddo dreulio'r rhan fwyaf o'i oes yn byw'n dawel ac yn ysgrifennu. Ni fentrodd i ymyrru yn y byd a'i bethau ond unwaith, a bu'n edifar ganddo am hynny. Roedd y Pab Fformosws (891-896) yn bab cryf ac ymroddedig, yr olaf felly am rai canrifoedd. Roedd y pab wedi cefnogi'r tywysog Arnulf, un o ddisgynyddion uniongyrchol olaf Charlemagne, mewn cweryl dynastig ac wedi ei wahodd i Rufain a'i goroni'n Ymerodr Glân Rhufeinig. Ysgrifennodd Eugenius bamffled yn cefnogi'r pab ac yn beirniadu'r ymgeisydd arall am y goron, y Dug Lambert. Yn anffodus, bu farw Arnulf ar ôl ei goroni, ar ei ffordd i Spoleto, a bu farw'r hen bab ei hun yn fuan wedyn (yn bedair ugain oed). Roedd mam y Dug Lambert, Ageltrude, yn ddynes faleisus iawn. Pan gadeiriwyd pab newydd, Pab Steffan VII, datgladdiwyd corff yr hen bab a'i osod ar orsedd gyferbyn â gorsedd y pab newydd yn y Fatican. Mewn golygfa erchyll cafwyd yr hen bab yn euog o heb fod yn deilwng o'i swydd. Fe'i dadwisgiwyd a thafliwyd ei gorff i Afon Tiber. Yna dechreuodd plaid Ageltrude erlid cefnogwyr Fformosws.

Ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach, â phab newydd arall yn y Fatican, sef Sergiws IV, dechreuodd yr erlid eto. Ysgrifennodd Eugenius bamffled arall, yn dweud mai dim ond dyn teilwng o lenwi sgidiau Sant Pedr oedd yn haeddu fod yn bab (Non est sequax Petri, si non habeat meritum illius Petri). Mewn ymateb gorchmynwyd i Eugenius ymneilltuo i fyfyrgell ym mynachlog Monte Cassino. Pan gafodd wys i ymddangos yn Rhufain daeth ei gymeriad osnus i'r amlwg; ysgrifennodd lythyr edifarhaol a gwenieithus i deulu Sergius a llwyddodd i berswadio'r pab a'i gefnogwyr nad oedd yn werth ei erlid a chafodd fyw allan gweddill ei oes yn parhau â'i waith ysgolheigaidd.

Llyfryddiaeth golygu

  • Helen Waddell (gol.), Medieval Latin Lyrics (Llundain, 1933). Testun un o delynegion Eugenius a rhagor amdano.