Cân ddawns/bop a berfformir gan y gantores Swedaidd Loreen yw "Euphoria". Fe'i hysgrifennwyd gan Thomas G:son a Peter Boström. Mae'r gân yn enwocaf am ennill y Gystadleuaeth Cân Eurovision 2012 a gynhaliwyd yn Baku, Aserbaijan wrth gynrychioli Sweden. Enillodd y gân y gystadleuaeth gyda 372 o bwyntiau, y sgôr ail-uchaf yn hanes y gystadleuaeth. Derbynnodd y gân y mwyaf o '12 pwynt' yn hanes y gystadleuaeth gan dderbyn pwyntiau uchafswm o 18 o wledydd.

"Euphoria"
Sengl gan Loreen
Rhyddhawyd 26 Chwefror 2012
Fformat Sengl digidol
Recodriwyd 2012
Genre Dawns, Pop
Parhad 3:01
Label WMG Sweden
Ysgrifennwr Thomas G:son, Peter Boström
Cynhyrchydd Peter Boström
Loreen senglau cronoleg
"Sober"
(2011)
"Euphoria"
(2012)
"Euphoria"
Cystadleuaeth Cân Eurovision 2012
Blwyddyn 2012
Gwlad Baner Sweden Sweden
Artist(iaid) Loreen
Iaith Saesneg
Cyfansoddwr(wyr) Thomas G:son, Peter Boström
Ysgrifennwr(wyr) Thomas G:son, Peter Boström
Perfformiad
Canlyniad cyn-derfynol 1
Pwyntiau cyn-derfynol 181
Canlyniad derfynol 1
Pwyntiau derfynol 372
Cronoleg ymddangosiadau
"Popular"
(2011)
"Euphoria"

Derbynnodd "Euphoria" glod gan gritigyddion sy'n mwynhau ardull y gân. Llwyddiant dros nos oedd y gân yn fasnachol, nid yn unig yn Sweden, ond ledled y byd yn Ewrop ac Ynysoedd y De. Siartiodd y gân yn gyntaf fel rhif 12 yn Sweden wedyn cyrhaeddodd y brig gan aros yn y safle hwn am chwe wythnos. Gwerthwyd dros 100,000 gopi'r sengl yn Sweden sy'n rhoi i'r sengl statws 5x Platinwm.

Cefndir golygu

Ysgrifennwyd "Euphoria" gan Thomas G:son a Peter Boström a'i chynhyrchu gan Boström. Roedd yr un ysgrifenwyr yn gyfrifol am gân yr ymgeisydd Norwy i Eurovision 2012, sef "Stay" gan Tooji, a ddaeth yn ddiwethaf yn y rownd derfynol.[1]

Cystadleuaeth Cân Eurovision golygu

 
Mae Loreen yn perfformio encôr o "Euphoria" yn Eurovision 2012.

Ymgeisiodd Loreen yn Melodifestivalen 2012, sioe Swedaidd lle mae'r artistiaid yn cystadlu am y cyfle i gynrychioli Sweden yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2012. Perfformiodd Loreen yn y rownd gyn-derfynol gyntaf a gynhaliwyd yn Växjö, Sweden ar 4 Chwefror 2012 ac enillodd hi le yn y rownd derfynol.[2] Enillodd Loreen rownd derfynol Melodifestivalen ar 10 Mawrth 2012 a'r siawns i gynrychioli Sweden yn Eurovision ar ôl iddi dderbyn y pwyntiau uchaf oddi wrth y rheithgor rhyngwladol a phleidlais y cyhoeddus, cyfanswm o 268 o bwyntiau. Adroddwyd bod ffigwr cofnod o fwy na 670,000 o'r bedair miliwn o wylwyr wedi ffonio i mewn i bleidleisio am y gân.[3][4]

Cystadlodd Loreen yn 11eg yn yr ail rownd gyn-derfynol ar 24 Mai 2012. Enillodd Loreen y rownd a symudodd hi ymlaen i'r rownd derfynol. Perfformiodd Loreen yn 17eg yn y rownd derfynol ar 26 Mai ac enillodd hi'r gystadleuaeth gyda 372 o bwyntiau, dim ond pymtheg pwyntiau swil o'r cofnod bob amser o 387 a gedwir gan enillwr y Gystadleuaeth Cân Eurovision 2009, Alexander Rybak, a'i gân "Fairytale".[5] Yn ogystal, torodd y gân y record am gael y mwyaf '12 pwynt' gan dderbyn pwyntiau uchafswm o 18 o wledydd. Yn gyfan gwbl, derbyniodd Sweden bwyntiau o 40 o'r 42 o wledydd a allai bleidleisio ac eithrio ei hun. Yr Eidal oedd yr unig wlad nad oedd yn dyfarnu unrhyw bwyntiau.

Fideo cerddoriaeth golygu

Defnyddiodd sianelau cerddoriaeth teledu berfformiad Melodifestivalen yn gyntaf fel y fideo cerddoriaeth swyddogol.[6] Cadarnhaodd Loreen y bydd yn rhyddhau fideo cerddoriaeth swyddogol newydd, a chyhoeddodd hi luniau set y fideo a gafodd ei ffilmio ar 13 Mehefin 2012 ar Twitter.[7][8]

Derbyniad beirniadol golygu

Cyn y gystadleuaeth, cafodd y gân ei sgorio'n uchel ar bolau rhagfynegiad ennill, yn fwyaf nodedig gan aelodau OGAE (clwb ffan mawr rhyngwladol y Gystadleuaeth Cân Eurovision).[3][9] Derbynnodd y gân adolygiadau cadarnhaol hefyd. Disgrifiodd Erika Brooks Adickman o'r wefan Idolator "Euphoria" fel "heintus".[10] Enwodd The Reflective Inklings y gân eu 'Cân yr Wythnos'. Rhoddant y gân adolygiad estynedig gan ddweud;

Euphoria is undoubtedly the best song of the pack that I have heard so far. It has Swedish elements sprinkled all over it. It is delicately done. The synths offer that aesthetic gloss that only makes the track go higher in terms of approval ratings. Upbeat would be a good way of describing Euphoria. Just like its predecessor (Popular), it can evoke feelings of great positivity onto its listener. Loreen shows tremendous composure in delivering those high notes. Hearing Loreen start slowly in terms of building that excitement in terms of her soon-to-be-sang high notes really got me pumped up.[11]

Ar 26 Mai, cyn i'r rownd derfynol ddechrau, mae'r gân wedi derbyn dwy Wobr Marcel Bezençon; y Wobr Gelfyddgar sy'n cael ei gyflwyno i'r artist gorau a ddewisir gan y sylwebyddion; a'r Wobr Gyfansoddwr sy'n cael ei gyflwyno i'r cyfansoddiad gorau a ddewisir gan y cyfansoddwyr sy'n cystadlu.[12]

Rhestr y sengl; golygu

  • Sengl CD
  1. "Euphoria" (Fersiwn y sengl) – 3:00
  2. "Euphoria" (Fersiwn Carli Remix) – 5:44
  3. "Euphoria" (Fersiwn Alex Moreno Remix) – 6:39
  4. "Euphoria" (Fersiwn Carli Dub) – 5:44
  5. "Euphoria" (Fersiwn radio'r Alex Moreno Remix) – 3:23
  6. "Euphoria" (Fersiwn radio'r Carli Remix) – 3:50
  7. "Euphoria" (Fersiwn offerynnol) – 3:00
  • Sengl digidol
  1. "Euphoria" (Fersiwn y sengl) – 3:01
  2. "Euphoria" (Fersiwn caraoce) – 3:01
  3. "Euphoria" (Fersiwn offerynnol) – 2:59
  • EP digidol – Remixes[13]
  1. "Euphoria" (Fersiwn Carli Remix) – 5:43
  2. "Euphoria" (Fersiwn Alex Moreno Remix) – 6:39
  3. "Euphoria" (Fersiwn radio'r Alex Moreno Remix) – 3:24
  4. "Euphoria" (Fersiwn y sengl) – 3:01

Perfformiad siart golygu

Yn fasnachol, llwyddiant oedd y gân, nid yn unig mewn marchnadoedd Ewropeaidd, ond hefyd mewn gwledydd gwahanol a'r marchnadoedd Awstralia ac America. Siartiodd y gân yn gyntaf fel rhif 12 ym mamwlad Loreen, Sweden, cyn iddi gyraedd y brig gan aros yn y safle hwn am chwe wythnos yn olynol. Gwerthwyd dros 100,000 gopi'r sengl yn Sweden sy'n rhoi i'r sengl statws 5x Platinwm. Yn Y Ffindir, siartiodd y gân ar brig y siart ac wedi dychwelyd i'r safle hwn ar ôl deuddeg ar y siart. Siartiodd y gân ar brig siart Denmarc hefyd am wythnos. Cyrhaeddodd "Euphoria" ar brig siartiau eraill hefyd yn cynnwys Yr Almaen, Awstria, Gwlad Groeg, Gwlad yr Iâ a'r Swistir. Siartiodd y gân hefyd yn y prif ddeg yn Israel, Moldofa a Rwmania gan gyrraedd safle 2, 3 a 7 yn y drefn honno.

Siartiodd y gân fel rhif 85 yn y Deyrnas Unedig, yn drigo i safle 3 yr wythnos ganlynol; y lleoliad uchaf i ymgeisydd Eurovision o tu allan i'r DU ers "Hold Me Now" gan Johnny Logan yn 1987. Gwerthodd 62,148 copi o'r sengl yn ei hwythnos gyntaf yn y DU.[14]

Yn Awstralia, siartiodd y gân fel rhif 36 ar y siart senglau a fel rhif 4 ar i siart dawns.

Siart Lleoliad
uchaf
Yr Alban[15] 2
Yr Almaen[16] 1
Awstralia (Siart senglau)[17] 34
Awstralia (Siart dawns)[18] 34
Awstria[19] 1
Denmarc[20] 1
Deyrnas Unedig (Siart senglau)[21] 3
Deyrnas Unedig (Siart dawns)[22] 2
Estonia[23] 1
Y Ffindir[24] 1
Ffrainc[25] 26
Gweriniaeth Tsiec[26] 76
Gwlad Belg (Fflandrys)[27] 1
Gwlad Belg (Walonia)[28] 14
Gwlad Groeg[29] 1
Gwlad yr Iâ[30] 1
Hwngari[31] 15
Yr Iseldiroedd[32] 2
Israel[33] 2
Iwerddon[34] 1
Lwcsembwrg[35] 1
Moldova[36] 3
Norwy[37] 1
Rwmania[38] 7
Rwsia[39] 2
Serbia[40] 20
Slofacia[41] 27
Sbaen[42] 3
Sweden (Airplay)[43] 1
Sweden (Digilistan)[44] 1
Sweden (Sverigetopplistan)[45] 1
Y Swistir[46] 1

Cyfeiriadau golygu

  1. BBC Breakfast News
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-02. Cyrchwyd 2012-03-03.
  3. 3.0 3.1 [Sweden: Loreen and Dead by April win in Växjö http://www.eurovision.tv/page/news?id=45603&_t=sweden_loreen_and_dead_by_april_win_in_vaexjoe]
  4. [Sweden: Loreen winner of Melodifestivalen! http://www.eurovision.tv/page/news?id=48793&_t=sweden_loreen_winner_of_melodifestivalen]
  5. [Sweden win Eurovision Song Contest 2012 http://www.digitalspy.co.uk/music/news/a383779/sweden-win-eurovision-song-contest-2012.html Archifwyd 2020-08-23 yn y Peiriant Wayback.]
  6. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-20. Cyrchwyd 2012-06-18.
  7. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-21. Cyrchwyd 2012-06-18.
  8. https://twitter.com/#!/LOREEN_TALHAOUI
  9. "I did my best, says Engelbert Humperdinck after he finishes second-to-last in Eurovision song contest". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-30. Cyrchwyd 2012-06-18.
  10. Erika Brooks Adickman, Eurovison 2012 Winner Loreen Performs “Euphoria”
  11. "Song of the Week: Euphoria by Loreen". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-14. Cyrchwyd 2012-06-18.
  12. [Winners of the Marcel Bezençon Awards 2012 http://www.eurovision.tv/page/news?id=winners_of_the_marcel_bezencon_awards_2012]
  13. Euphoria (Remixes) - EP by Loreen
  14. [Official Charts Analysis: Gary Barlow LP sells 40k http://www.musicweek.com/story.asp?sectioncode=1&storycode=1049803&c=1]
  15. http://www.theofficialcharts.com/archive-chart/_/22/3
  16. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-03. Cyrchwyd 2012-06-18.
  17. http://www.australian-charts.com/showitem.asp?interpret=Loreen&titel=Euphoria&cat=s
  18. http://www.ariacharts.com.au/pages/charts_display_dance.asp?chart=1D20
  19. http://www.austriancharts.at/showitem.asp?interpret=Loreen&titel=Euphoria&cat=s
  20. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-12-09. Cyrchwyd 2012-06-18.
  21. http://www.theofficialcharts.com/archive-chart/_/1/20120609/
  22. http://www.theofficialcharts.com/archive-chart/_/18/20120609/
  23. http://www.uuno.ee/?pid=194&lang=1&top=327
  24. http://www.latauslista.fi/
  25. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-03-15. Cyrchwyd 2012-06-18.
  26. http://www.ifpicr.cz/hitparada/index.php?hitp=R
  27. http://www.ultratop.be/nl/showitem.asp?interpret=Loreen&titel=Euphoria&cat=s
  28. http://www.ultratop.be/fr/showitem.asp?interpret=Loreen&titel=Euphoria&cat=s
  29. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-31. Cyrchwyd 2012-05-31.
  30. http://www.tonlist.is/Music/Chartlist/493/
  31. http://www.mahasz.hu/?menu=slagerlistak&menu2=archivum&lista=radios&ev=2012&het=23&submit_=Keres%E9s
  32. http://www.dutchcharts.nl/showitem.asp?interpret=Loreen&titel=Euphoria&cat=s
  33. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-03. Cyrchwyd 2012-06-18.
  34. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-03. Cyrchwyd 2012-06-18.
  35. http://www.billboard.biz/bbbiz/charts/chart-search-results/1?orderBy=chartDate&orderType=a
  36. https://www.facebook.com/photo.php?fbid=379547825427765&set=a.138830729499477.24345.119297828119434&type=1&theater
  37. http://www.norwegiancharts.com/showitem.asp?interpret=Loreen&titel=Euphoria&cat=s
  38. http://mediaforest.ro/weeklycharts/HistoryWeeklyCharts.aspx?year=2012&week=22
  39. http://lenta.ru/articles/2012/06/15/chart/
  40. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-04. Cyrchwyd 2012-06-18.
  41. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-16. Cyrchwyd 2012-06-18.
  42. http://www.spanishcharts.com/showitem.asp?interpret=Loreen&titel=Euphoria&cat=s
  43. http://img215.imageshack.us/img215/5941/swedishairplaychart.jpg
  44. http://sverigesradio.se/sida/topplista.aspx?programid=2697
  45. http://www.swedishcharts.com/showitem.asp?interpret=Loreen&titel=Euphoria&cat=s
  46. http://www.swisscharts.com/showitem.asp?interpret=Loreen&titel=Euphoria&cat=s