Eva Perón

actores

Roedd María Eva Duarte de Perón neu Evita Perón (7 Mai 191926 Gorffennaf 1952), ganed María Eva Duarte, yn actores a gwleidydd poblogaidd, a aned yn Los Toldos, Buenos Aires. Ail wraig yr Arlywydd Juan Domingo Perón (1895–1974) ydoedd a bu'n Foneddiges Gyntaf yr Ariannin o 1946 tan ei marwolaeth ym 1952. Yn aml cyfeirir ati fel Eva Perón, neu'r term Sbaeneg o annwylder Evita, sy'n golygu "Eva Fach".

Eva Perón
GanwydMaría Eva Duarte Edit this on Wikidata
7 Mai 1919 Edit this on Wikidata
Junín Edit this on Wikidata
Bu farw26 Gorffennaf 1952 Edit this on Wikidata
o canser serfigol Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, actor llwyfan, actor ffilm, undebwr llafur, ymgyrchydd dros hawliau merched, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched Edit this on Wikidata
SwyddPrif Foneddiges yr Ariannin, llywydd corfforaeth, Arweinydd Ysbrydol Cenedl yr Ariannin Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Merched Peron Edit this on Wikidata
Mudiadhawliau menywod Edit this on Wikidata
PriodJuan Perón Edit this on Wikidata
Gwobr/auUwch-Groes Urdd Isabel la Católica, Uwch Groes Urdd y Condor o'r Andes, Urdd Cenedlaethol er Anrhydedd, Urdd Umayyad, Uwch Groes Urdd Cenedlaethol er Anrhydedd a Haeddiant, Urdd Boyacá, Gorchymyn Cyffredinol San Martin, Urdd Isabel la Católica, National Order of Honour and Merit, Order of the Condor of the Andes, Gorchymyn Teilyngdod Cenedlaethol, Urdd Croes y De, Urdd Llew'r Iseldiroedd, Urdd Eryr Mecsico, Order of Merit of Duarte, Sanchez and Mella, Urdd yr Haul, Urdd Oranje-Nassau Edit this on Wikidata
llofnod

Ei hanes golygu

Plentyn llwyn a pherth ydoedd a anwyd yng nghefn gwlad yr Ariannin ym 1919. Ym 1934, pan oedd yn 15 mlwydd oed, aeth i'r brifddinas, Buenos Aires lle dilynodd yrfa fel actores ym myd y llwyfan, radio a ffilm.

Cyfarfu Eva y Cadfridog Juan Perón ar 22 Ionawr, 1944, mewn noson elusennol yn Stadiwm Park Luna ym Buenos Aires, er mwyn codi arian i'r rhai a ddioddefodd yn Naeargryn San Juan. Priododd y ddau y flwyddyn ganlynol. Ym 1946, etholwyd Juan Perón yn Arlywydd yr Ariannin. Dros y chwe mlynedd ganlynol, daeth Eva Perón yn ffigur dylanwadol o fewn yr undebau llafur o blaid Peron, gan siarad ar ran hawliau'r gweithwyr. Rheolodd y Gweinidogaethau Gwaith ac Iechyd a sefydlodd Sefydliad Eva Perón er mwyn hyrwyddo lles cymdeithasol yn y wlad. Cefnogai Evita ddiwygiadau poblogaidd o blaid y werin. Oherwydd hynny a'i gwaith elusennol cawsai ei haddoli gan y tlodion yn ystod ei hoes fer. Gweithiai'n galed o blaid rhoi'r hawl i bleidleisio i ferched. Hyhi hefyd a sefydlodd y Blaid Benywaidd Peronaidd.

Ym 1951, derbyniodd Eva Perón yr enwebiad Peronaidd i fod yn Is-Arlywydd yr Ariannin. Yn ei hymgais, cafodd gefnogaeth o sylfeini gwleidyddol Peronaidd a dosbarth gweithiol, incwm isel yr Ariannin a gyfeiriwyd atynt fel descamisados neu'r "rhai heb grysau". Fodd bynnag, golygodd gwrthwynebiad gan elite y wlad a'r lluoedd arfog, ynghyd â'i hiechyd bregus ei bod wedi tynnu ei henw'n ôl. Ym 1952, ychydig cyn ei marwolaeth i gancr yn 33 mlwydd oed, rhoddwyd y teitl swyddogol o "Arweinydd Ysbrydol y Genedl" iddi gan y Gynghrair Archentaidd.

 
Bedd Perón ym mynwent Recoleta yn Buenos Aires

Dylanwad golygu

Ysgrifennodd Andrew Lloyd-Webber a Tim Rice y sioe gerdd enwog Evita amdani yn 1978. Elaine Paige a chwaraeodd ran Evita. Yn y ffilm o'r un enw Madonna a chwaraeodd ran Evita.

Gweler hefyd golygu

  • Evita - sioe gerdd Andrew Lloyd Webber.

Dolenni allanol golygu