Mae ewtroffigedd yn broses sydd yn peryglu nifer o rywogaethau o anifeiliaid ledled y byd. Bydd glaw yn golchi gwrtaith (sy'n cynnwys ffosffad, nitrad a maethynnau eraill) a ddefnyddir mewn ffermydd i mewn i afonydd, nentydd a llynnoedd lleol a bydd presenoldeb y cemegion hyn yn berygl bywyd i'r rhywogaethau o fewn y cyrff dŵr.[1] Bydd cemegion yn y gwrtaith yn peri tyfiant algâu yn y dŵr, a bydd y tyfiant mawr o algâu a welir yn arwain at lefelau ocsigen peryglus o isel. Canlyniad hyn fydd marwolaeth nifer o bysgod a phlanhigion.

Dŵr gwyrdd llachar yn aber Afon Potomac o ganlyniad i ewtroffigedd

Cyfeiriadau golygu

  1. Over fertilization of the World's Freshwaters and Estuaries. University of Alberta Press. Tudalen 1.