Ewyllys (cyfraith)
- Gweler hefyd: Ewyllys
Dogfen sy'n cynnwys datganiad gan berson yw ewyllys[1] neu profeb, lle mae'r un sy'n tystio yn enwi un neu fwy o bobl i reoli ei ystad, er mwyn trosglwyddo ei eiddo i eraill wedi ei farwolaeth, yn ôl ei ewyllys. Gelwir yr eiddo a roddir yn gymynrodd. Bydd dal modd i eraill etifeddu eiddo os nad yw unigolyn wedi gadael ewyllys, ond bydd hyn yn dibynnu ar gyfraith y wlad lle bu ei gartref.
Yn hanesyddol, dim ond eiddo oedd yn cael ei gynnwys mewn "ewyllys", tra bod "testament" yn cyfeirio at eiddo personol yn unig, ond yn aml bydd gwahaniaethu rhwng y ddau erbyn heddiw. Gall ewyllys hefyd greu ymddiriedolaeth "ewyllysiol" neu "destamentaidd" sydd ond yn gweithredu wedi marwolaeth y tystiwr.
Gweler hefyd golygu
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Lewis, Robyn. Termau Cyfraith (Llandysul, Gwasg Gomer, 1972), t. 202.
Dolenni allanol golygu
- Gwneud ewyllys, Directgov.co.uk Archifwyd 2011-04-10 yn y Peiriant Wayback.