Nofel erotig yn yr iaith Saesneg gan John Cleland (1709 - 1789) yw Fanny Hill (teitl llawn arferol: Fanny Hill, or, Memoirs of a Woman of Pleasure; hefyd Memoirs of a Woman of Pleasure). Mae'n un o'r nofelau erotig enwocaf ac yn garreg filltir yn hanes llenyddiaeth erotig.

Fanny Hill
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurJohn Cleland Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1748 Edit this on Wikidata
Genrellenyddiaeth LHDT, erotica Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithLloegr, Llundain Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Clawr argraffiad poblogaidd o Fanny Hill a ddaeth allan yn UDA yn 1910

Ar ôl cyrraedd sefyllfa o barchusrwydd a moeth, mae arwres y nofel yn edrych yn ôl ar ei gyrfa gynnar a'r anturiaethau amharchus digon a ddaeth i'w rhan. Cyrhaeddasai Fanny Hill strydoedd Llundain yn ferch ifanc unig, tlawd a diniwed. Mae'n syrthio i ddwylo dyn sy'n ei rhoi i weithio mewn puteindy, ond dim ond ar ôl iddi ddianc oddi wrtho i weithio mewn maison i bobl dda eu byd y mae hi'n dechrau sylweddoli ei grym ac yn elwa o'i sefyllfa. Erbyn iddi gyrraedd ei deunaw oed mae ganddi ddigon wrth gefn i fedru priodi â'i chariad a byw yn ddedwydd.

Clawr gan Édouard-Henri Avril, Paris 1906

Mae'r fersiwn derfynol o Fanny Hill yn ffrwyth carchariad yr awdur yng ngharchar y Fflyd am fod mewn dyled (Chwefror 1748 - Mawrth 1749). Roedd Cleland eisoes wedi ysgrifennu fersiwn ddrafft a gylchredai ymhlith ei gyfeillion. Cafodd y nofel ei chyhoeddi mewn dwy gyfrol dan y teitl Memoirs of a Woman of Pleasure yn 1748 a 1749, cyn i Cleland gael ei ryddhau. Bygythwyd mynd â'r awdur a'r cyhoeddwyr i'r gyfraith, ond ar ôl iddynt dalu dirwy o £100 ddaeth y mater i ben. Cyhoeddwyd talfyriad o'r ddwy gyfrol yn 1750 a dyma'r ffurf arferol heddiw. Dim ond yn ddiweddar iawn y mae cyhoeddwyr wedi mentro argraffu'r testun heb ei sensro — cafodd argraffiad ei wahardd mor ddiweddar â 1963 ng ngwledydd Prydain.

Mae'n nofel rymus sy'n cyfuno elfennau llenyddol ac athronyddol ar un llaw gyda delweddu erotig - masweddol weithiau - cofiadwy ar y llaw arall, ac arwres anghyffredin sydd o flaen ei hoes.

Llyfryddiaeth golygu

Hyd yn hyn (2015), ni chafwyd cyfieithiad Cymraeg.

Yr argraffiad mwyaf cyfleus o'r testun Saesneg llawn efallai, heb ei sensro, yw'r un a geir yn y gyfres 'Penguin Popular Classics' (mewn print).

Cyfeiriadau golygu