Ystyr Fatah (hefyd, Fateh; Arabeg: فتح‎), ydy 'agoriad', sef acronym (croes) o'r enw Arabeg Harakat al-Tahrir al-Watani al-Filastini (Arabeg: حركة التحرير الوطني الفلسطيني‎, sef: Mudiad Rhyddid Cenedlaethol Palesteinia). Mae'n blaid allweddol sy'n rhan bwysig (a'r cryfaf) o Fudiad Rhyddid Palesteina neu'r PLO (y Palestine Liberation Organization). Cafodd y mudiad ei sefydlu yn 1959 gan aelodau o'r dispora gan gynnwys Yasser Arafat.

Logo Fatah

Yng ngwleidyddiaeth Palesteina, saif ar y chwith-canol gyda thuedd sosialaidd. Mae nifer o grwpiau'n perthyn i Fatah e.e. al-Assifa. Yn wahanol i'r grwpiau Islamaidd, nid yw Fatah, sy'n fudiad seciwlar, yn cael ei gydnabod fel mudiad terfysgol gan unrhyw lywodraeth.

Yn etholiad 25 Ionawr, 2006, collodd y blaid ei fwyafrif yn llywodraeth y Palesteiniaid - a hynny i Hamas. Ymddiswyddodd pob un o aelodau'r cabined gan gymryd swyddi yn yr wrth-blaid. Arweinydd y mudiad ydy Mahmoud Abbas.

Bu rhwyg mawr rhwng Fatah a Hamas ar ôl hynny a arweiniodd at gyfnod o ymladd agored rhwng y ddwy blaid yn enwedig yn Llain Gaza, ond yn wyneb ymosodiad Israel ar Lain Gaza ar ddiwedd 2008 a dechrau 2009 cafwyd cydweithrediad agos rhwng ymladdwyr Fatah, Hamas a mudiadau eraill i wrthsefyll yr Israeliaid. Ar 27 Ebrill 2011, cyhoeddodd Fatah a Hamas eu bont wedi cyrraedd carreg filltir bwysig yn eu hymdrech i uno'r ddau fudiad yn un plaid gwleidyddol, a fydd yn ymladd yn etholiad 2012.

Eginyn erthygl sydd uchod am Balesteina. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato