Chwedl yn wreiddiol o'r Almaen am ŵr a werthodd ei enaid i'r diafol yn gyfnewid am wynodaeth gyfrin yw chwedl Faust, hefyd Faustus.

Faust a'r diafol

Y farn gyffredinol yw fod y chwedl yn seiliedig ar hanes y meddyg a sêr-ddewin Almaenig Dr. Johann Faust (c. 1480 - c. 1540. Yn fuan ar ôl ei farwolaeth, roedd chwedlau ei fod wedi gwneud cytundeb a'r diafol. Argraffwyd llyfryn Historia von D. Johann Fausten yn 1587, a dilynwyd hwn gan amryw eraill yn y blynyddoedd nesaf, gyda fersiynau Iseldireg a Saesneg yn ymddangos hefyd.

Daeth y chwedl yn sawl i gryn nifer o weithiau llenyddol a cherddorol dros y canrifoedd. Yn 1604, cyhoeddodd y dramodydd Seisnig Christopher Marlowe The Tragical History of Doctor Faustus. Yr enwocaf o'r gweithiau llenyddol sy'n defnyddio'r chwedl yw Faust gan Johann Wolfgang von Goethe, sy'n gyfuniad o ddrama fydryddol a cherdd hir. Cyhoeddwyd y rhan gyntaf, Faust. Der Tragödie erster Teil ("Faust: y rhan gyntaf o'r Drasiedi") yn 1808, a'r ail ran, Faust. Der Tragödie zweiter Teil ("Faust: yr ail ran o'r Drasiedi") wedi marwolaeth Goethe yn 1832.

Bu Faust Goethe yn ysbrydoliaeth i nifer o weithiau cerddorol adnabyddus, Faust gan Charles Gounod, Damnedigaeth Faust gan Hector Berlioz a Symffoni Faust gan Franz Liszt. Yn 1947, cyhoeddodd y nofelydd Almaenig Thomas Mann ei nofel Doktor Faustus: Das Leben des deutschen Tonsetzers Adrian Leverkühn, erzählt von einem Freunde, yn seiliedig ar y chwedl.

Cyfieithwyd fersiwn Goethe o Faust i'r Gymraeg gan T Gwyn Jones fel rhan o'r gyfres o lyfrau Cyfres y Werin yn 1922.