Ffederaliaeth (o'r Lladin foedus, "cyd-glymedig"), yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio system o lywodraeth lle mae sofraniaeth yn cael ei rhannu yn gyfansoddiadol rhwng y llywodraeth ganolog a'r unedau llai, a allai gael ei galw'n daleithiau neu ranbarthau. Mae'n wahanol i ddatganoli, lle nad oes sail gyfansoddiadol i'r rhannu grym, a'r sofraniaeth yn llwyr yn nwylo'r llywodraeth ganolog.

Gwladwriaethau ffederal (mewn gwyrdd)

Ymhlith gwledydd ffederal Ewrop, mae yr Almaen, y Swistir ac Awstria. Tua allan i Ewrop, ceir y system yn yr Unol Daleithiau, Canada, Brasil, Ariannin, India ac Awstralia, ymhlith eraill.