Ffederasiwn Glowyr De Cymru

Undeb llafur yn cynrychioli glowyr de Cymru oedd Ffederasiwn Glowyr De Cymru, a elwid yn aml y Ffed (Saesneg: South Wales Miners' Federation).

Ffurfiwyd yr undeb yn dilyn methiant Streic Glowyr De Cymru 1898. Daeth yn gysylltiedig â Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr yn 1899 a'r Blaid Lafur yn 1908.

Yn 1945, newidiodd Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr i fod yn undeb canolog, dan yr enw Undeb Cenedlaethol y Glowyr, a daeth Ffederasiwn Glowyr De Cymru yn Rhanbarth De Cymru o'r undeb hwnnw. Roedd yr Aelod Seneddol Lib-Lab William Abraham (Mabon) yn un o'r arweinwyr cynnar, ond ymhen ychydig daeth arweinwyr iau, llai cymhedrol yn eu lle. Erbyn yr ymgyrch dros isafswm cyflog yn 1912 roedd yn amlwg mai'r Ffed oedd yn gosod yr agenda ar gyfer gweddill gwledydd Prydain.

Clensiodd dirwasgiad 1930au'r Ffed i galonnau ei aelodau a daeth yn rhan o fytholeg sosialaidd Cymru.

Yn 1945 daeth yn Adran De Cymru o Undeb Cenedlaethol y Glowyr.

Llywyddion y Ffed golygu

Ysgrifenyddion golygu