Aderyn mytholegol, yn wreiddiol o fytholeg y Ffenicsiaid, yw'r ffenics (Hen Roeg: Φοῖνιξ, phoínix). Fe'i ceir ym mytholeg yr Hen Aifft fel y "Bennu", ac ym mytholeg Roeg a Rhufeinig hefyd.

Ffenics, llun o Fwystfileg Aberdeen.

Dywedir ei fod yn aderyn gyda phlu aur a choch sy'n byw am fil o flynyddoedd, yna pan mae'n teimlo diwedd ei oes yn agosáu, mae'n adeiladu nyth ac yn ei roi ar dân. Llosgir yr aderyn yn y nyth, ond o'r lludw mae ffenics newydd yn codi. Cred rhai mai'r fflamingo a roddodd gychwyn i'r chwedl. Defnyddir "ffenics" hefyd am yr aderyn fenghuang ym mytholeg Tsieina.

Daeth yr aderyn yn boblogaidd gyda'r Cristionogion cynnar fel symbol o atgyfodiad, ac mae'n boblogaidd mewn nifer o wledydd fel symbol i gyfleu syniad tebyg. Enwyd dinas Phoenix yn Arizona yn yr Unol Daleithiau ar ei ôl.