Fferm wynt

grŵp o dyrbinau gwynt

Grŵp o dyrbinau gwynt yn yr un lleoliad a ddefnyddir er mwyn cynhyrchu trydan ydy fferm wynt. Gall fferm wynt fawr gynnwys cannoedd o dyrbinau gwynt unigol, gan orchuddio arwynebedd o gannoedd o filltiroedd sgwâr, ond gellir defnyddio'r tir rhwng y tyrbinau at ddibenion eraill megis amaethyddiaeth. Gellir lleoli fferm wynt yn y môr hefyd.

Fferm wynt Bangui yn y Pilipinas.
Fferm wynt Lillgrund yn Sweden
Y fferm wynt gyntaf yn cynnwys tyrbinau 7,5 MW Enercon E-126 turbines, Estinnes, Gwlad Belg, 20 Gorffennaf 2010, deufis cyn iddi gael ei chwblhau; sylwer ar y llafnau dwy-ran.

Ers Chwefror 2012, Fferm Wynt Fântânele-Cogealac yn Rwmania yw'r fferm wynt tirol fwyaf yn y byd, gan gynhyrchu 600 MW. Lleolir nifer o'r ffermydd gwynt mwyaf yn yr UDA a Tsieina. Mae gan Fferm Wynt Gansu yn Tsieina dros 5,000 MW yno gyda nod o 20,000 MW erbyn 2020. Mae gan Tsieina nifer o "ganolfannau pŵer gwynt" eraill o faint tebyg. Ers Chwefror 2012, Fferm Wynt Walney yn y Deyrnas Unedig yw'r fferm wynt forol fwyaf yn y byd, gyda 367 MW, ac yna Prosiect Gwynt Morol Thanet (300 MW), sydd hefyd yn y DU.

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: