Ffilm yng Nghymru

Mae ffilm yng Nghymru, ai mewn Cymraeg neu Saesneg, wedi bod yn symbol o ddiwylliant y wlad ers blynyddoedd, ac wedi hyrwyddo enw Cymru ar draws y byd. Mae nifer o actorion a chyfarwyddwyr enwog wedi dod o Gymru, yn cynnwys Richard Burton a Peter Greenaway.

Ffilm Gymraeg golygu

Mae ffilm yn y Gymraeg yn mynd yn ôl i Y Chwarelwr ym 1935, ffilm ddu-a-gwyn, gyda thrac sain Cymraeg ar riliau ar wahân, yn dangos agweddau ar fywyd chwarelwr ym Mlaenau Ffestiniog, yn cynnwys ei fywyd cartref, gwaith a'r capel. Cafodd ei chynhyrchu gan Syr Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd yr Urdd, a'i hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan John Ellis Williams. Cafodd y ffilm ei dangos mewn nifer o sinemâu cludadwy ar hyd a lled Cymru rhwng 1935 ac 1940, ac roedd hi'n llwyddiannus iawn yn y Gogledd. Dywedwyd mewn llythyr yn Y Cymro ym Mawrth 1936:

Mewn byd lle mae'r ffilmiau Saesneg yn cael eu perffeithio, teimlad rhyfedd oedd eistedd i lawr i edrych ar blentyn cyntaf-anedig y sinema Gymraeg. Pan sylweddolir fod y 'talkie' Americanaidd wedi bod mewn bri ers tua deuddeng mlynedd a'r ffilm ddistaw o flaen hynny rhaid cyfaddef bod rhywbeth o'i le pan sylweddolir fod Cymru wedi gorfod aros tan 1935 am enedigaeth ffilm genedlaethol.[1]

Erbyn heddiw, mae dwy ffilm wedi cael eu henwebu am Oscar: Hedd Wyn a Solomon & Gaenor.

Cymry Ym Myd Y Ffilmiau golygu

Actorion golygu

Cyfarwyddwyr golygu

Cymru fel lleoliad i saethu ffilmiau golygu

 
Llun llonydd o'r ffilm Ivanhoe (1913), a ffilmiwyd yng Nghastell Cas-Gwent.

Cafodd Cymru ei darganfod gan Hollywood yn gyntaf yn 1913 – ffilmiwyd Ivanhoe ger Castell Cas-Gwent a chyflogwyd 500 o bobl lleol fel rhodwyr.

Mae Bollywood hefyd wedi dangos diddordeb mewn saethu ffilmiau yng Nghymru.[2][3][4]

Gwyliau ffilm golygu

Abertoir - Gŵyl Ffilmiau Arswyd Genedlaethol Cymru golygu

Cynhelir Abertoir[5] yn Aberystwyth bob mis Hydref ers 2009.

Gŵyl Ffilm a Cherddoriaeth Ryngwladol Soundtrack golygu

Cynhelir Gŵyl Ffilm a Cherddoriaeth Soundtrack - yng Nghaerdydd bob mis Tachwedd. Cynhaliwyd yr Ŵyl gyntaf yn 2008.

Ffresh - Gŵyl Delwedd Symudol Myfyrwyr Cymru golygu

Cynhelir Ffresh - Gŵyl Delwedd Symudol Myfyrwyr Cymru yn Aberystwyth bob mis Chwefror. Cynhaliwyd yr Wyl gyntaf yn 2003 a cheir cystadleuthau ym maesydd ffilm, teledu ac animeiddio ar gyfer myfyrwyr addysg bellach yng Nghymru.

Cyfeiriadau golygu

Ffynonellau golygu

  • Amanda Thomas, A Welsh Miscellany (Zymurgy Publishing, 2004)
  • Berry, David, Wales and Cinema: The First Hundred Years (Gwasg Prifysgol Cymru, 1994)

Dolenni allanol golygu