Ffin ieithyddol Sir Benfro

Mae ffin ieithyddol Sir Benfro,[1] neu'r llinell Landsker, yn ffin ieithyddol hanesyddol yn ne-orllewin Cymru. Mae'r bobl i'r gogledd o'r ffin yn siarad Cymraeg yn bennaf tra bod y bobl i'r de wedi siarad Saesneg yn bennaf er y 12g.

Y Ffin Ieithyddol yn 1901

Mae'r ymraniad ieithyddol hwn yn adlewyrchu hanes yr ardal. Daeth de Penfro i feddiant y Normaniaid yn yr 11g ac yn y ganrif olynol cafwyd mewnlifiad sylweddol o Saeson a Ffleminiaid. Saesneg a Fflemeg oedd iaith y rhan honno o'r sir mewn canlyniad. Mae ôl y Fflemeg i'w gweld ar dafodiaith Saesneg Sir Benfro o hyd.

Siaredir Cymraeg gan y mwyafrif o hyd yn y gogledd, yn enwedig ar hyd yr arfordir o ardal Tyddewi i fyny ac ym mryniau'r Preselau a'r cylch. Yno y ceir tafodiaith Sir Benfro (Dyfedeg) ar ei chryfaf.[2]

Yn ôl yr hynafiaethydd George Owen, ar ddechrau'r 16g y Gymraeg oedd iaith cantrefi Cemais, Cilgerran a Phebidiog. I'r dwyrain rhedai'r landsker trwy blwyfi Llanbedr Felffre a Llanddewi Felffre yng nghantref Arberth a thrwy Llanfallteg a Llandysilio yng nghantref Daugleddau.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Awbery, Gwenllian M, Cymraeg Sir Benfro, Llanrwst, 1991, ISBN 0863811817
  2. 2.0 2.1 G. M. Awbery, 'Tafodiaith Sir Benfro', yn Abergwaun a'r Fro (Cyfres Bro'r Eisteddfod 6, 1986).

Gweler hefyd golygu