Ffordun gyda Thre'r-llai a Threlystan

cymuned ym Mhowys

Cymuned ym Mhowys, Cymru, yw Ffordun gyda Thre'r-llai a Threlystan (Saesneg: Forden with Leighton and Trelystan). Saif y gymuned ar lan ddwyreiniol Afon Hafren, rhwng yr afon a'r ffîn â Lloegr, a gyferbyn a'r Trallwng ar lan arall Hafren. Mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Ffordun, Tre'r-llai a Trelystan.

Ffordun gyda Thre'r-llai a Threlystan
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.61857°N 3.12133°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000273 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map

Ceir nifer o hynafiaethau yn y gymuned, yn cynnwys bryngaer Caer Digoll ar ben Cefn Digoll; crybwyllir y rhain yn y chwedl Breuddwyd Rhonabwy. Mae Caer Ffordun yn gaer bwysig o gyfnod y Rufeiniaid, ac mae Clawdd Offa yn mynd trwy'r gymuned.

Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,320.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[2]


Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Ffordun gyda Thre'r-llai a Threlystan (pob oed) (1,426)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Ffordun gyda Thre'r-llai a Threlystan) (150)
  
10.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Ffordun gyda Thre'r-llai a Threlystan) (557)
  
39.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Ffordun gyda Thre'r-llai a Threlystan) (199)
  
33.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.