Gweddillion creadur byw, neu blanhigyn, o'r gorffennol pell wedi troi'n garreg (carreg waddodol fel rheol) ydy ffosil. Ffosilota ydy'r weithred o gasglu ffosiliau, a defnyddiwyd y gair hwn yn gyntaf yn 1755 mewn llythyr gan rai o Forrisiaid Môn.[1]

Ffosil
Enghraifft o'r canlynolgwrthrych ffisegol naturiol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Amonit

Mae casglu ac astudio ffosilau ar hyd yr oesoedd (neu'r linell amser ddaearegol yn elfen gyffrous a hanfodol o Baleontoleg: sut a pha bryd y cawsant eu ffurfio a'r berthynas rhyngddynt a'r creigiau o'u cwmpas a sut y maent yn perthyn i'w gilydd, drwy dacsonmoeg. Yn fras gellir dweud fod pob ffosil o leiaf 10,000 o flynyddoedd oed.[2] Mae eu hamrediad felly'n ymestyn o'r ienengaf i'r hynaf yn yr is-raniadau amser canlynol: o'r Gyfres (neu 'Epoc') ddaearegol Holosen hyd at yr Eon Archaean - sef 3.48 biliwn o flynyddoedd yn ôl,[3]

Mae maint ffosiliau'n amrywio'n fawr, felly hefyd maint pethau sy'n fyw heddiw. Gallant amrywio o facteria ungell, un micrometer mewn diametr i ddinosor neu goeden anferthol sy'n pwyso sawl tunnell. Rhan yn unig o'r creadur sydd wedi marw sy'n cael ei gadw ar ffurf ffosil fel arfer: fel arfer y rhan a fineraleiddiwyd yn ystod ei fywyd e.e. dannedd caled neu esgyrn anifeiliaid asgwrn-cefn neu ysgerbwd allanol, calchog anifeiliaid di-asgwrn cefn. Ceir hefyd ffosiliau o olion wedi'u gadael gan yr anifail ei hun e.e. ôl traed neu garthion (coprolitau).

Cyfeiriadau golygu

  1.  ffosil. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 19 Ionawr 2021., testun ML i. 344: "Gwych a fai gael gafael ar rai o ffosilod Mahone"; gweler John H. Davies, The Letters of Lewis, Richard, William and John Morris 1728-65 (Aberystwyth, 1967)
  2. "theNAT - San Diego Natural History Museum". Sdnhm.org. Cyrchwyd 5 Tachwedd 2012.
  3. Borenstein, Seth (13 Tachwedd 2013). "Oldest fossil found: Meet your microbial mom ". Associated Press. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2013.