Pobl Germanaidd sy'n byw yn ardal hanesyddol Ffrisia ac sy'n siarad Ffriseg yw'r Ffrisiaid. Heddiw, lleolir Ffrisia yng ngogledd ddwyrain yr Iseldiroedd a gogledd orllewin yr Almaen ar lannau Geneufor yr Almaen.

Ffrisiaid
Friezen
Cyfanswm poblogaeth
2.3 miliwn[1]
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol
Ffrisia:
Ieithoedd
Ffriseg (Ffriseg Orllewinol, Ffriseg Ogleddol, Ffriseg Ddwyreiniol), Isel Sacsoneg, Almaeneg, Iseldireg, Daneg[1]
Crefydd
Protestaniaeth[1]
Grwpiau ethnig perthynol
Saeson, Iseldirwyr, Almaenwyr[3]

Gellir ystyried "De âlde Friezen" yn anthem genedlaethol y Ffrisiaid.

Hanes golygu

Roedd y Ffrisiaid cyntaf yn byw ar hyd yr arfordir isel ger Môr y Gogledd rhwng aber Afon Rhein yn yr Iseldiroedd ac Afon Ems yn yr Almaen, ac yn Ynysoedd Ffrisia ger arfordiroedd yr Almaen a Denmarc. Ceir y cofnod cynharaf ohonynt yn y 1g. Roeddent yn bobl forwrol, môr-ladron a masnachwyr, ac yn cadw gwartheg. Adeiladant aneddiadau ar dwmpathau gwneud (Hen Ffriseg: terp; lluosog: terpen) i warchod rhag llifogydd.[4] Yn yr oes Rufeinig, llwyddasant i gadw draw o ddylanwadau'r Rhufeiniaid a fabwysiadwyd gan lwythau Germanaidd eraill megis y Ffranciaid, y Bwrgwyniaid, a'r Alemaniaid. Roeddynt yn debycach felly i'r Daniaid paganaidd nag yr oeddynt i lwythau'r de.

Gorchfygwyd Teyrnas Ffrisia gan y Ffranciaid yn 734 a chawsant eu troi'n Gatholigion, un o'r llwythau Germanaidd olaf i droi at Gristnogaeth. Buont yn gwrthsefyll yr ymdrechion hyn, a llofruddiwyd y cennad Boniffas ger Dokkum yn 754. Wedi buddugoliaeth Siarlymaen dros Widukind yn 785, meddianwyd holl diriogaeth y Ffrisiaid gan Deyrnas y Ffranciaid. Cytunodd y pendefigion i ildio i'r Ffranciaid ac i dderbyn defodau'r Eglwys, er i'r werin addoli'r hen dduwiau paganaidd am sawl canrif arall.

O'r 7g hyd y 10g, chwaraeodd y Ffrisiaid ran flaenllaw mewn masnach rhwng y Rheindir a gwledydd Môr y Gogledd a'r Môr Baltig.[4] Buont hefyd yn adnabyddus am fedrusrwydd ymladd a'u ffyrnigrwydd ar faes y gad, a chawsant eu recriwtio i fyddin y Ffranciaid i frwydro'n erbyn yr Afariaid a'r Slafiaid yng Nghanolbarth Ewrop a'r Lombardiaid yng ngogledd yr Eidal. Yn sgil marwolaeth Siarlymaen yn 814, dirywiodd yr amddiffynfeydd a'r gwarchodluoedd a sefydlwyd ganddo i amddiffyn arfordiroedd ac ynysoedd y gogledd, a bu'r Ffrisiaid yn brwydro ysbeilwyr Llychlynnaidd yn y 9g. Rheolwyd tiroedd y Ffrisiaid gan frenhinoedd Denmarc o 840 i 885. Llofruddiwyd Godfrid, Dug Ffrisia yn 885, ac yn nechrau'r 10g daeth Ffrisia yn rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig ond yn meddu ar rywfaint o ymreolaeth.

Yn yr 11g dechreuodd y Ffrisiaid codi morgloddiau i amddiffyn eu hiseldiroedd rhag y môr. Brwydrodd y Ffrisiaid yn erbyn yr Holandwyr yn y 12g a'r 13g cyn uno'r tiriogaethau. Yn yr 16g ymunodd y Ffrisiaid Gorllewinol â'r Iseldirwyr yn y Gwrthryfel Iseldiraidd yn erbyn Habsbwrgiaid Sbaen, a daethant yn rhan o Weriniaeth yr Iseldiroedd (neu Daleithiau Unedig yr Iseldiroedd). Daeth y Ffrisiaid Dwyreiniol a'r Ffrisiaid Gogleddol dan reolaeth Prwsia yn y 18g a'r 19g, ac heddiw maent yn rhan o'r Almaen. Cadwodd y Ffrisiaid eu hunaniaeth ar wahân hyd ddiwedd y 19g, ond heddiw maent wedi cymhathu'n gryf â'r Iseldirwyr a'r Almaenwyr. Yr iaith Ffriseg yw'r brif nodwedd sy'n parhau i nodi hunaniaeth y Ffrisiaid.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Bodlore-Penlaez, Mikael. Atlas of Stateless Nations in Europe (Talybont, Y Lolfa, 2011), t. 90.
  2. Bodlore-Penlaez (2011), t. 157.
  3. Minahan, James. One Europe, Many Nations: A Historical Dictionary of European National Groups (Greenwood Publishing, 2000).
  4. 4.0 4.1 4.2 Mackenzie, John M. Peoples, Nations and Cultures: An A-Z of the Peoples of the World, Past and Present (Weidenfeld & Nicolson, Llundain, 2005), t. 333.