Ffrwydrad Dinas Oklahoma

Ymosodiad terfysgol ar Adeilad Ffederal Alfred P. Murrah yng nghanol Dinas Oklahoma ar 19 Ebrill 1995 oedd ffrwydrad Dinas Oklahoma, yr ymosodiad mwyaf ddinistriol ar dir yr Unol Daleithiau nes ymosodiadau 11 Medi 2001. Bu farw 168 o bobl, gan gynnwys 19 o blant o dan 6 oed, ac anafwyd mwy na 680 o bobl. Dinistriwyd neu ddifrodwyd 324 o adeiladau o fewn radiws o 16 o flociau, dinistriwyd neu losgwyd 86 o geir, a thorodd gwydr mewn 258 o adeiladau cyfagos. Amcangyfrifwyd i'r bom achosi o leiaf $652 miliwn o ddifrod. Cafwyd Timothy McVeigh a Terry Nichols yn euog o'r ymosodiad ym 1997. Dienyddiwyd McVeigh gan bigiad marwol ar 11 Mehefin 2001, a dedfrydwyd Nichols i garchar am oes.[1]

Ffrwydrad Dinas Oklahoma
Adeilad Ffederal Alfred P. Murrah dau ddiwrnod wedi'r ffrwydrad
Enghraifft o'r canlynolymosodiad terfysgol, ymosodiad gyda bom, llofruddiaeth torfol Edit this on Wikidata
Dyddiad19 Ebrill 1995 Edit this on Wikidata
Lladdwyd168 Edit this on Wikidata
LleoliadAlfred P. Murrah Federal Building Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
RhanbarthDinas Oklahoma Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfeiriadau golygu

  1. McVeigh wedi ei ddienyddio, BBC (11 Mehefin 2001). Adalwyd ar 7 Mai 2017.
     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes yr Unol Daleithiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Oklahoma. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.