Ffugwyddoniaeth
Ffugwyddoniaeth yw rhywbeth sy’n ymddangos fel gwyddoniaeth heb adlynu at y dull gwyddonol.
Adnabod ffugwyddoniaeth golygu
Mae ffygwyddoniaeth yn cael ei nodweddu gan y canlynol;-
Diffyg cynnydd golygu
Ni fydd ymarferwyr ffugwyddoniaeth yn gwneud digon o arbrofion i weld a ydy eu syniadau yn ddibynnol ac fyddan nhw ddim yn cadw nodiadau digon manwl. Mae ganddyn nhw gymaint o ffydd yn eu damcaniaethau fel eu bod yn dueddol i beidio sylwi ar unrhyw beth amheus. Fe fyddan nhw'n gwrthod dysgu o’u profiadau, a ddim yn cywiro eu camgymeriadau. Mae yna ddiffyg symud ymlaen.
Defnyddio iaith gamarweiniol golygu
Fe fydd ffugwyddonydd yn creu geiriau mawr sy’n swnio’n dechnegol er mwyn twyllo’r rhai sydd ddim yn deall gwyddoniaeth. Galw dŵr yn "hidrogen deuocsid" er enghraifft.
Personolyddiaeth golygu
Mae yna glymbleidiaeth rhwng yr ymarferwyr, a maen nhw'n dueddol i gyrraedd at benderfyniadau direswm heb brofi eu syniadau. Fe fyddant yn cyhuddo gwyddonwyr o gynllwynio yn eu herbyn. Fe fyddant yn ystyried beirniaid fel gelynion ac yn eu sarhau yn bersonol.
Llinellau terfyn golygu
Mae llawer o ymryson dros y linell derfyn rhwng gwyddoniaeth a ffugwyddoniaeth. Mae ambell i ffugwyddonydd wedi darganfod pethau sy'n ddefnyddiol mewn gwyddoniaeth.
Gweler hefyd golygu
- Alcemeg
- Creadaeth
- Cwacyddiaeth
- Cylchoedd cnwd (cylchau cnwd)
- Dadansoddiad seicolegol (seico-analysis)
- Ffrenoleg
- Soser hedegog
- Ofergoeliaeth
- Sêr-ddewiniaeth (astroleg)
- Symudiad parhaol