Adeilad cabaret a cherdd ydy'r Folies Bergère (ynganiad Ffrangeg: ​[fɔ.li bɛʁ.ʒɛʁ]) wedi'i leoli ym Mharis, Ffrainc ac a ddaeth i'r amlwg ym 1882 wedi i Édouard Manet beintio A Bar at the Folies-Bergère sy'n darlunio Sioeferch mewn tafarn, un o'r demimondaineau, yn sefyll o flaen drych.

Gwisg, c. 1900
Jules Chéret, Folies Bergère, Fleur de Lotus, 1893 - poster Art Nouveau ar gyfer y Ballet Pantomime

Fe'i agorwyd ar yr ail o Fai 1869 fel Folies Trévise, a chafodd gyfnodau llewyrchus iawn yn y 1890au Belle Époque hyd at Années folles y 1920au. Mae'n dal i fodoli ac yn symbol iach o ryddid y Parisien. Fe'i leolir ar 32 rue Richer ar y 9fed Arrondissement, ac fe'i codwyd yn wreiddiol fel tŷ opera y gan y pensaer Plumeret. Newidiwyd yr enw i "Folies Bergère" ar 13 Medi 1872.

Y gorsafoedd métro agosaf yw'r Cadet a'r Grands Boulevards.

Yn 1886, creodd Édouard Marchand genre newydd o adloniant ar gyfer y Folies Bergère: the music-hall revue ble chwareai'r ferch le blaenllaw yn yr adloniant. Un o'r enwocaf oedd y dawnswraig o'r UDA Loie Fuller. Yn 1902, wedi salwch hir, ymddiswyddodd Édouard Marchand.[1] Yn 1926 dawnsiodd Josephoine Baker ei hun i mewn i lyfrau hanes mewn revue o'r enw La Folie du Jour pan ddaeth ar y llwyfan mewn sgert o 'fananas' a dim arall. Mae gwisgoedd ecsotig y Folies Bergère yn fyd-enwog, yn ogystal a'r agwedd rhydd o ddawnsio erotig heb fawr ddim gwisgoedd i guddio a chaethiwo'r corff.

Ers 2006, mae'r Folies Bergère wedi cyflwyno cynyrchiadau cerddorol fel Cabaret (2006–2008) a Zorro the Musical (2009–2010).

Perfformwyr golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu