Frédéric Chopin

cyfansoddwr a aned yn 1810

Frédéric François Chopin (1 Mawrth 181017 Hydref 1849) oedd un o'r cyfansoddwyr enwocaf a mwyaf dylanwadol ar gyfer y piano. Fe'i anwyd yn Fryderyk Franciszek Chopin, ym mhentref Żelazowa Wola, ger Warsaw[1] yng Ngwlad Pwyl. Roedd ei dad yn Ffrancwr a oedd wedi ymsefydlu yn y wlad, a'i fam yn Bwyles. Yn Warszawa, fe adnabwyd dawn mentrus y Chopin ifanc wrth ganu'r piano a chyfansoddi. Yn 20 oed, fe adawodd am Baris (ni ddychwelodd i Wlad Pwyl byth eto). Ym Mharis, datblygodd yrfa fel perfformiwr, athro,[2] a chyfansoddwr, ac yno y mabwysiadodd ffurf Ffrangeg ei enw, "Frédéric-François". Ym 1836, cyfarfu â'r awdures Ffrengig George Sand. Cawsant berthynas dymhestlog a barhaodd hyd 1847. Pur wael oedd iechyd Chopin trwy lawer o'i fywyd, a gorfododd hyn iddo beidio â pherfformio'n aml yn y blynyddoed cyn ei farwolaeth.

Frédéric Chopin
GanwydFryderyk Franciszek Chopin Edit this on Wikidata
1 Mawrth 1810 Edit this on Wikidata
Żelazowa Wola Edit this on Wikidata
Bu farw17 Hydref 1849 Edit this on Wikidata
o diciâu Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Man preswylWarsaw, Fienna, Paris, Żelazowa Wola, Szafarnia, Masovian Voivodeship, Poturzyn, Duszniki-Zdrój, Berlin, Dresden, Kalisz, Wrocław, Toruń, Gdańsk, Poznań, Kraków, Llundain, Manceinion, Glasgow, Caeredin, Valldemossa Charterhouse, Valldemossa, Nohant-Vic Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc, Ymerodraeth Rwsia, Duchy of Warsaw, Gwlad Pwyl y Gyngres, yr Ail Weriniaeth Ffrengig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol cerddoriaeth Chopin
  • Uniwersytet Warszawski Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfansoddwr, pianydd, athro cerdd, meistr ar ei grefft, cerddor Edit this on Wikidata
Adnabyddus amÉtudes, Polonaise in A-flat major "Heroic", Op. 53, Nocturnes, Ballades Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadJohann Sebastian Bach, Wolfgang Amadeus Mozart Edit this on Wikidata
Mudiadcerddoriaeth ramantus Edit this on Wikidata
TadNicolas Chopin Edit this on Wikidata
MamTekla Justyna Chopin Edit this on Wikidata
PartnerMaria Wodzińska, George Sand Edit this on Wikidata
llofnod

Cyfansoddiadau golygu

Mae'r piano yn ymddangos ymhob un o weithiau Chopin. Mae'r rhan fwyaf ar gyfer piano unigol, ond cynnwys rhai ohonynt ail biano, ffidil, soddgrwth, llais neu gerddorfa.

Mae gan rhai o'i weithiau mawreddog megis y pedwar ballade, y pedwar scherzo, y barcarolle op. 60, y fantaisie op. 49, a'i sonatau le sefydlog yn y repertoire, yn ogystal â gweithiau byrrach. Dau gasgliad pwysig arall yw'r 24 Prelìwd Op. 28, a seiliwyd i ryw raddau ar Das Wohltemperirte Clavier Johann Sebastian Bach, a'r Études Op. 10 ac Op. 25.

Cyfansoddodd Chopin ddau o goncertos piano enwocaf y cyfnod rhamantaidd, (Opws 11 a 21). Yn ogystal, fe osododd lawer o ysgrifau Pwyleg, a rhywfaint o gerddoriaeth siambr.

Cyfeiriadau golygu

  1. The Oxford Companion to Music. gol. Alison Latham.
  2. "Frédéric Chopin (1810-1849) | Composer | Biography, music and facts". Classic FM (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Chwefror 2024.


   Eginyn erthygl sydd uchod am Bwylwr neu Bwyles. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.