Francis Lawrence

cyfarwyddwr ffilm a chynhyrchydd a aned yn Fienna yn 1971

Mae Francis Lawrence (ganwyd 26 Mawrth 1971)[1] yn gyfarwyddwr fideos cerddorol a ffilm Americanaidd sydd wedi gweithio gyda sêr fel Britney Spears, Nelly Furtado, Aerosmith, Janet Jackson, Jennifer Lopez, Destiny's Child, Gwen Stefani, Pink, Pussycat Dolls, Shakira, a Missy Elliott. Mae ef hefyd wedi cyfarwyddo nifer o hysbysebion ar gyfer cwsmeriaid fel Coca-Cola, L'Oréal, Pepsi-Cola, Bacardi, McDonalds, GAP, a Disneyland. Yn 2005 cyfarwyddodd ei ffilm gyntaf o'r enw Constantine, yn serennu Keanu Reeves.

Francis Lawrence
Ganwyd26 Mawrth 1971 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Loyola Marymount Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Grammy Edit this on Wikidata

Cyhoeddwyd y byddai dwy ffilm yn 2007, Eddie Dickens and the Awful End ac I Am Legend (yn seiliedig ar nofel Richard Matheson), ac yn serennu Will Smith.

Cyfeiriadau golygu

   Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.