Roedd Francisco Franco Bahamonde (4 Rhagfyr 1892 - 20 Tachwedd 1975), yn gadfridog a ddaeth yn unben Sbaen o ganlyniad i Ryfel Cartref Sbaen rhwng 1936 a 1939 ac a gadwodd ei afael ar y wlad hyd ei farwolaeth.

Francisco Franco
GanwydFrancisco Paulino Hermenegildo Teódulo Franco Bahamonde Edit this on Wikidata
4 Rhagfyr 1892 Edit this on Wikidata
Ferrol Edit this on Wikidata
Bu farw20 Tachwedd 1975 Edit this on Wikidata
Madrid Edit this on Wikidata
Man preswylRoyal Palace of El Pardo, Pazo de Meirás Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSbaen Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Toledo Infantry Academy Edit this on Wikidata
Galwedigaethswyddog milwrol, spanish legionary, person milwrol, gwleidydd, llywodraethwr, sgriptiwr Edit this on Wikidata
Swyddhead of government of Spain, Chief of Staff of the Army, Director of the General Military Academy, pennaeth gwladwriaeth Sbaen, commander-in-chief, commander-in-chief, commander-in-chief, commander-in-chief, National Head of the Movement, Capitán general de las Islas Baleares Edit this on Wikidata
Taldra1.63 metr Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolFalange Española Tradicionalista y de las JONS Edit this on Wikidata
TadNicolás Franco Salgado-Araújo Edit this on Wikidata
MamPilar Bahamonde y Pardo de Andrade Edit this on Wikidata
PriodMaría del Carmen Polo Martínez-Valdés Edit this on Wikidata
PlantCarmen Franco Edit this on Wikidata
PerthnasauRamona Polo Martínez-Valdés, Ramón Serrano Suñer, Francisco Franco Salgado-Araujo Edit this on Wikidata
Gwobr/auImperial Order of the Yoke and Arrows, Knight Grand Cross with Collar of the Order of Alfonso X, Knight Grand Cross of the Order of Saint Ferdinand, Medal of Suffering for the Motherland, War Grand Cross, Military Medal of Spain, Royal and Military Order of Maria Christina, Croes fawr teilyngdod milwrol, adran wen, Grand Cross of the Aeronautical Merit (Spain) - White Decoration, Grand Cross of the Royal and Military Order of Saint Hermenegild, Cross of Naval Merit with red badge, Cross of the Military Merit - Red Decoration, Knight Grand Officer of the Order of Saint Hermenegild, Cross of the Royal and Military Order of Saint Hermenegild, Order of the Medhauia, Melilla Medal (Military), Campaigns Commemorative Medal, Battle of Lepanto 4th Centenary Medal, Urdd Goruchaf Crist, Commandeur de la Légion d'honneur‎, Uwch Groes Sash y Tair Urdd, Grand Collar of the Military Order of the Tower and Sword, Urdd y Cyfarchiad Sanctaidd, Marchog Uwch Groes Urdd y Seintiau Maurice a Lasarus, Knight grand cross of the order of the crown of Italy, Order of the German Eagle, Order of Rama, Grand Cross of the Order of the Legion of Honour (Philippines), Urdd Sikatuna, Gorchymyn Cyffredinol San Martin, Urdd Bernardo O'Higgins, Grand Cross of the special class of the Order of Boyacá, Gorchymyn Teilyngdod Cenedlaethol, Order of the Seal of Solomon, National Order of Honour and Merit, Supreme Order of the Renaissance, Urdd Cenedlaethol er Anrhydedd, Military Order of Ayacucho, Grand Cross of the Military Order of Avis, Order of Trujillo, Order of Christopher Columbus, Knight of the Sovereign Military Order of Malta, Order of Saint Lazarus, Q43534190, Q92114598, Q92226898, Medal of the Peace of Morocco, Knight Grand Officer of the Order of Isabella the Catholic, Medal Teilyndod am Deithio Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed ef yn Ferrol, Sbaen. Roedd ei dad yn y llynges, ond gan fod prinder swyddi yn y llynges, penderfynodd Franco ymuno â'r fyddin. Aeth i academi filwrol Toledo, lle graddiodd yn safle 251 allan o 312. Cafodd yrfa fwy llwyddiannus wedyn, gan ddod yn gadfridog ieuengaf y fyddin.

Pan ddechreuodd y fyddin baratoi gwrthryfel yn erbyn llywodraeth adain-chwith Sbaen yn 1936, roedd Franco'n amlwg yn y paratoadau. Y prif arweinwyr eraill ymhlith y swyddogion a geisiodd gipio grym oedd José Sanjurjo ac Emilio Mola. José Sanjurjo oedd wedi ei fwriadu fel yr arweinydd, ond fe'i lladdwyd mewn damwain awyren wrth hedfan o Bortiwgal i Sbaen, a daeth Franco yn arweinydd. Daeth yn arweinydd y lluoedd Cenedlaethol, ac ar ddiwedd y rhyfel cartref ar 1 Ebrill 1939, yn unben Sbaen. Roedd ganddo berthynas weddol agos ag Adolf Hitler a Benito Mussolini, oedd wedi ei gynorthwyo yn y rhyfel cartref, ond gwrthododd ymuno â hwy yn yr Ail Ryfel Byd.

Nodweddid ei gyfnod mewn grym gan bwyslais trwm ar draddodiad Sbaen a Chatholigiaeth, a gwrthwynebiad cryf i unrhyw fygythiad i awdurdod canolog.