Francisco Pizarro

Fforiwr a concwistador Sbaenaidd oedd Francisco Pizarro González (16 Mawrth 147626 Gorffennaf 1541). Mae'n fwyaf adnabyddus fel y gŵr oedd yn gyfrifol am ddinistrio Ymerodraeth yr Inca.

Francisco Pizarro
GanwydFrancisco Pizarro y González Edit this on Wikidata
16 Mawrth 1478 Edit this on Wikidata
Trujillo Edit this on Wikidata
Bu farw26 Mehefin 1541 Edit this on Wikidata
o clwyf drwy stabio Edit this on Wikidata
Lima Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCoron Castilia, Sbaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethconquistador, fforiwr Edit this on Wikidata
SwyddViceroy of Peru Edit this on Wikidata
TadGonzalo Pizarro Rodríguez de Aguilar Edit this on Wikidata
PartnerQuispe Sisa, Cuxirimay Ocllo, Añas Colque Edit this on Wikidata
PlantFrancisca Pizarro Yupanqui Edit this on Wikidata
Gwobr/auArdalydd, Urdd Santiago Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed Francisco Pizarro yn Trujillo (Extremadura). Roedd yn blentyn gordderch i hidalgo o'r enw Gonzalo Pizarro Rodríguez de Aguilar a merch o'r wlad,Francisca González y Mateos. Magwyd Pizarro yn anllythrennog a bu'n geidwad moch am gyfnod. Aeth i Dde America am y tro cyntaf yn 1502.

Cyrhaeddodd y Sbaenwyr dan Pizarro i diriogaethau'r Inca yn 1526. Roedd yn awnlwg ei bod yn wlad gyfoethog, a theithiodd Pizarro i Sbaen i gael hawl i'w goresgyn. Dychwelodd yn 1532, pan oedd yr ymerodraeth ar ganol rhyfel cartref rhwng dau fab Huayna Capac, Huascar ac Atahualpa. Roedd hefyd wedi ei gwanychu gan y frech wen, oedd wedi lledu o ganolbarth America. Dim ond 180 o ddynion oedd gan Pizarro, ond llwyddodd i goncro'r ymerodraeth. Dienyddiwyd Atahualpa yn Awst 1533.

Ar 18 Ionawr 1535, sefydlodd Pizarro ddinas Ciudad de los Reyes, a ddaeth yn fuan i'w galw yn Lima.