Francisco de Orellana

Fforiwr a milwr Sbaenaidd oedd Francisco de Orellana (15111546). Ef oedd y cyntaf i deithio ar hyd Afon Amazonas, ac ef a roddodd ei henw iddi. Ef hefyd a sefydlodd ddinas Guayaquil.

Francisco de Orellana
Ganwyd1511, 1505 Edit this on Wikidata
Trujillo Edit this on Wikidata
Bu farw1546 Edit this on Wikidata
o clefyd Edit this on Wikidata
Amazon Delta Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSbaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethconquistador, person milwrol, milwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Ganed Orellana yn Trujillo yn Extremadura yn 1511. Roedd yn gyfaill i deulu Francisco Pizarro, ac efallai'n perthyn iddynt. Teithiodd i'r America pan oedd yn ieuanc, gan wasanaethu yn Nicaragwa. Yn 1535 daeth a milwyr i atgyfnerthu Pizzaro yn ei ymgyrchoedd ym Mheriw; collodd lygad yn un o'r brwydrau.

Yn 1540, trefnodd Gonzalo Pizarro, brawd Francisco Pizarro, ymgyrch tua'r dwyrain gydag Orellana fel dirprwy. Wedi croesi'r Andes, adeiladodd Pizarro ac Orellana long hwyliau, y San Pedro, i deithio ar afonydd Coca a Napo. Yn Chwefror 1542) cytunwyd y byddai Orellana yn mynd i lawr yr afon yn y llong gyda tua 50 o ddynion i chwilio am fwyd. Ni allai Orellana ddychwelyd i fyny'r afon yn erbyn y llif, felly gyrroedd negeseuwyr i hysbysu Pizarro a ac adeiladodd long arall, y Victoria. Wedi taith o 4800 km mewn chwe mis, cyrhaeddodd aber yr Amazonas ar (26 Awst 1542), cyn hwylio tua'r gogledd i'r trefedigaethau Sbaenig.

Bu farw Orellana wrth fforio'r ardaloedd hyn ymhellach ym mis Tachwedd 1546.