Frank Brangwyn

arlunydd

Arlunydd Cymreig-Seisnig oedd Syr Frank William Brangwyn (13 Mai 186711 Mehefin 1956), y cyfeirir ato gan amlaf fel Frank Brangwyn.

Frank Brangwyn
Frank Brangwyn yn 1920
FfugenwBrangwyn, Frank William Edit this on Wikidata
Ganwyd12 Mai 1867, 13 Mai 1867 Edit this on Wikidata
Brugge Edit this on Wikidata
Bu farw11 Mehefin 1956 Edit this on Wikidata
Ditchling Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, darlunydd, ffotograffydd, cynllunydd, gwneuthurwr printiau Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Morris & Co. Edit this on Wikidata
Adnabyddus amMasnach ar y Traeth Edit this on Wikidata
Mudiady Mudiad Celf a Chrefft Edit this on Wikidata
TadWilliam Curtis Brangwyn Edit this on Wikidata
Gwobr/auGrand Officer of the Order of Leopold II, Medal Albert, Urdd y Seintiau Maurice a Lasarus, Marchog Faglor Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Cafodd ei eni yn Brugge, Gwlad Belg, lle symudodd ei dad wedi iddo ennill cystadleuaeth a drefnwyd gan y "Belgian Guild of St Thomas and St Luke" i ddylunio eglwys plwyf. Cofrestrwyd ei enedigaeth dan yr enw Guillaume François Brangwyn, ond adnabuwyd ef fel Frank. Ym 1874 dychwelodd y teulu i Loegr. Priododd Lucy Ray ym 1896, ond bu farw hi'n ddi-blant ym 1924. Bu i Brangwyn brydlesu Temple Lodge, 51 Queen Street, Hammersmith o 1900 hyd 1937/38 a prynodd The Jointure, Ditchling, Sussex ym 1918. Cafodd ei wneud yn Farchog ym 1941. Bu farw ar 11 Mehefin 1956 yn ei gartref yn Sussex.[1]

Ym 1925, cafodd Brangwyn gomisiwn ar gyfer yr Oriel Frenhinol, Tŷ'r Arglwyddi. Rhoddwyd y paneli yr Ymerodraeth Brydeinig i Neuadd y Ddinas Abertawe (Neuadd Brangwyn) ym 1934.

Yn 1936 cyflwynodd Brangwyn dros 400 o weithiau i Bruges, sydd wedi eu cartrefu yn Amgueddfa Tŷ Arents heddiw. Diolchodd Brenin Gwlad Belg gan wneud Brangwyn yn Swyddog Mawreddog yn Urdd Leopold II, a gwnaeth Bruges ef yn Citoyen d'Honneur de Bruges (dim ond y trydydd tro y gwobrwywyd yr anrhydedd hon).[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Oxford Dictionary of National Biography
  2. Libby Horner, Frank Brangwyn: A Mission to Decorate Life (The Fine Art Society & Liss Fine Art, 2006), t. 238
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.