Uchelwr, gwleidydd, swyddog milwrol a gwleidydd Almaenig a fu'n Ganghellor yr Almaen o dan arweiniad Adolf Hitler yn 1932 oedd Franz Joseph Hermann Michael Maria von Papen zu Köningen (29 Hydref 18792 Mai 1969) (Ynghylch y sain ymaynganiad ). Roedd yn Is-Ganghellor yr Almaen rhwng 1933 a 1934.

Franz von Papen
GanwydFranz Joseph Hermann Michael Maria von Papen Edit this on Wikidata
29 Hydref 1879 Edit this on Wikidata
Werl Edit this on Wikidata
Bu farw2 Mai 1969 Edit this on Wikidata
Sasbach Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen, Ymerodraeth yr Almaen Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prussian Military Academy Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, diplomydd, person milwrol Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Reichstag Gweriniaeth Weimar, member of the Reichstag of Nazi Germany, Aelod o Landtag, Prwsia, Reich Chancellor in the Weimar Republic, Vice-Chancellor of Germany, Minister President of Prussia, Minister President of Prussia, ambassador of Germany to Austria, ambassador of Germany to Turkey, Canghellor yr Almaen, llysgennad Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolY Blaid Ganolog, Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol Edit this on Wikidata
TadFriedrich von Papen Edit this on Wikidata
PriodMartha von Papen Edit this on Wikidata
PlantFriedrich Franz von Papen Edit this on Wikidata
LlinachPapen Edit this on Wikidata
Gwobr/auKnight Grand Cross of the Order of Pius IX‎, Bathodyn y Parti Aur, Knight Grand Cross in the Order of the Holy Sepulchre, War Merit Cross, Urdd Sofran Milwyr Malta, Urdd Marchogol y Beddrod Sanctaidd Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd yn aelod o grwp bychan a gynghorai'r Arlywydd Paul von Hindenburg ar ddiwedd Gweriniaeth Weimar. Credai Papen y gellid rheoli Hitler pan fyddai mewn grym ac i raddau helaeth, ef a berswadiodd Hindenburg i anwybyddu ei amheuon a phenodi Hitler yn Ganghellor mewn cabinet nad oedd o dan ddylanwad y Natsïaid. Fodd bynnag, yn fuan iawn gwthiwyd Papen a'i gynghreiriaid i'r naill ochr gan Hitler a gadawodd Papen y llywodraeth ar ôl Noson y Cyllyll Hirion, pan laddwyd rhai o'i gefnogwyr gan y Natsïaid.

Cefndir golygu

Cafodd Franz von Papen ei eni i deulu aristocratiaid Catholigaidd yn Werl, Rhanbarth Westphalia.[1] Roedd yn fab i Friedrich von Papen zu Königen (1839 – 1906) ac Anna Laura von Steffens (1852 – 1939). Cafodd Franz von Papen ei addysgu fel swyddog milwrol. Yna gweithiodd fel attaché milwrol ym Mhalas y Kaiser cyn ymuno â 'Staff Cyfredinol yr Almaen' ym Mawrth 1913.

Yn Rhagfyr 1913 fe'i penodwyd i adran diplomyddol, fel attaché milwrol i Lysgennad yr Almaen (Johann Heinrich von Bernstorff) yn Unol Daleithiau America. Teithiodd yno i Fecsico yng ngwanwyn 1914 er mwyn fod yn dyst i 'r effaith a gafodd y chwyldro Mecsicanaidd ar y boblogaeth leol. Pan dorrodd y Rhyfel Byd Cyntaf ym mis Awst y flwyddyn honno, roedd yn ôl yn Washington, D.C.. Priododd Martha von Boch-Galhau (1880 – 1961) ar 3 Mai 1905.

Yn ystod y Rhyfel Byd, tra yn Washington D.C., dechreuodd ymgysylltu gyda gweithgareddau ysbïo. Oherwydd hyn, cafodd ei allforio yn ôl i’r Almaen ond ar y ffordd adref cafodd ei fagiau eu hatafaelu gan yr Americanwyr. Pan agorwyd fagiau pPapen, gwelsant 126 o stybiau siec yn ei fag. Roedd y rhain wedi eu hysgrifennu allan i asiantwyr Papen.

Yn Ebrill 1916, fe'i cyhuddwyd Papen gan rheithgor ffederal America, ar sail ei fod wedi cynllwynio i ddinistrio Camlas Welland yng Nghanada. Cafodd y cyhuddiad (neu'r 'ditiad') yma ei chodi yn 1932 pan ddaeth yn Ganghellor yr Almaen.[2] Yn hwyrach ymlaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd Franz von Papen ei symud i’r Ffrynt Ddwyreiniol lle gwasanaethodd fel swyddog a symudwyd ef i Balesteina er mwyn gwasanaethu fel Uwch-gapten yn y fyddin Otomanaidd.

 
Y Canghellor Papen (chwith) gyda Gweinidog Amddiffyn yr Almaen, Kurt von Schleicher yn 1932, yn ystod ras geffylau.

Gweithiodd fel cyfryngwr rhwng y fyddin Almaeneg a’r ‘Gwirfoddolwyr Gwyddelig' (a adnabyddwyd yn ddiweddarach fel yr IRA). Ei swyddogaeth yn hyn oedd gwerthu arfau i’r Gwyddelod yn ystod Gwrthryfel y Pasg. 1916. Gweithiodd hefyd fel cyfryngwr i’r cenedlaetholwyr o India yn ystod y cynllwyn Hindŵ-Almaeneg. Ddychwelodd Papen yn ôl i’r Almaen yn 1918 ar ddiwedd y Rhyfel.

Blynyddoedd "Rhwng rhyfel" golygu

Yn y blynyddoedd rhwng y rhyfel ymunodd gyda’r ‘Blaid Ganolig’ gan sefydlu rhan o'r adain geidwadol. Roedd yn aelod o lywodraeth Prwsia o 1921 i 1932. Yn etholiad arlywyddol 1925, mi sonnodd Papen ei blaid gan gefnogi'r ymgeisydd adain-dde Paul Hindenburg dros ymgeisydd Plaid y Canolwyr – Wilhelm Marx.

Ar y cyntaf o Fehefin 1932, fe'i dyrchafwyd gan Franz von Papen yn Ganghellor yr Almaen; Kurt von Schleicher oedd wedi dewis y cabinet. Roedd yn aelod o'r Clwb "Deutscher Herrenklub".

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1. "Reich Chancellor Brüning's resignation" Archifwyd 2007-09-27 yn y Peiriant Wayback. from the site Biografie Willy Brandt.
  2. Current Biography 1941, pp. 651–653.