Pentref a chymuned yng nghanton Bern yn y Swistir yw Fraubrunnen. Saif 8 km i'r gogledd-orllewin o Burgdorf a 16 km i'r gogledd ddwyrain o ddinas Bern, ar yr hen biffordd o Bern i Solothurn. Roedd poblogaeth y gymuned yn 1,741 yn 2007, gyda 95.5% o'r rhain yn siarad Almaeneg fel mamiaith.

Fraubrunnen
Mathbwrdeistref y Swistir Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,106 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Almaeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBern-Mittelland administrative district Edit this on Wikidata
GwladY Swistir Edit this on Wikidata
Arwynebedd31.91 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr495 metr, 489 metr Edit this on Wikidata
GerllawEmme Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau47.085°N 7.5269°E Edit this on Wikidata
Cod post3306, 3317, 3314, 3313, 3312, 3309, 3308 Edit this on Wikidata
Map

Sefydlwyd Abaty Fraubrunnen gan y Sistersiaid yn 1246, a datblygodd yn sefydliad pwysig a chyfoethog. Yn ystod Rhyfel y Gugler yn 1375, llosgwyd yr abaty gan ran o fyddin y Gugler dan Owain Lawgoch. Gorchfygwyd y Gugler gan fyddin Bern yma ar 27 Rhagfyr 1375, ac er i Owain ei hun fedru dianc, lladdwyd 800 o'r marchogion Gugler.