Free Nelson Mandela

Cân brotest o 1984 gan The Special AKA yw "Free Nelson Mandela" sy'n galw am ryddhau Nelson Mandela, ymgyrchydd gwrth-apartheid oedd yn cael ei garcharu gan awdurdodau De Affrica ar y pryd. Cyfansoddwyd y gân gan Jerry Dammers, sefydlwr y band, a chafodd y sengl ei gynhyrchu gan Elvis Costello. Teitl gwreiddiol y gân yw "Nelson Mandela", ond adnabyddir yn well fel "Free Nelson Mandela", teitl y sengl a ryddhawyd yn yr Unol Daleithiau.[1] Cyrhaeddodd safle rhif naw yn siart senglau'r Deyrnas Unedig.[2] Er iddi gael ei gwahardd yn Ne Affrica cafodd y gân ei chanu gan wrthdystwyr yn ralïau'r African National Congress.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Nelson Mandela: the triumph of the protest song. The Guardian (6 Rhagfyr 2013). Adalwyd ar 6 Rhagfyr 2013.
  2. (Saesneg) Top 20 Political Songs: Free Nelson Mandela. New Statesman (25 Mawrth 2010). Adalwyd ar 6 Rhagfyr 2013.
  Eginyn erthygl sydd uchod am gân. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.