Heddlu Gweriniaeth Iwerddon yw Garda Síochána na hÉireann (ynganiad Gwyddeleg: [ˈɡaːrd̪ə ˈʃiːxaːn̪ˠə n̪ˠə ˈheːɾʲən̪ˠ]; Gwyddeleg am "Gwarchodlu Heddwch Iwerddon"), a elwir yn aml yn y Gardaí. Lleolir ei bencadlys ym Mharc y Ffenics, Dulyn.

Arwydd gorsaf Garda yn Dunfanaghy, Swydd Donegal.

Sefydlwyd "y Gard Dinesig" gan Michael Collins wedi Rhyfel Cartref Iwerddon, a ailenwyd yn Garda Síochána na hÉireann ar 8 Awst 1923 gan Kevin O’Higgins.[1]

Esblygodd y Garda oddi ar Cwnstablaeth Frenhinol Iwerddon (yr RIC) y bu Gweriniaethwyr yn ymladd yn eu herbyn. Roedd yr RIC yn cario drylliau ac yn heddlu parafilwrol, ond doedd y Garda ddim - dyma heddlu diarfog gyntaf erioed yn yr Iwerddon.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) History of An Garda Síochána. An Garda Síochána. Adalwyd ar 28 Mai 2012.

Dolen allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.