Gareth Jones (newyddiadurwr)

ieithydd a newyddiadurwr

Newyddiadurwr Cymreig a siaradai Gymraeg, oedd Gareth Richard Vaughan Jones (13 Awst 1905 - 12 Awst 1935). Daeth yn enwog am ei adroddiadau ar yr Newyn Sofietaidd Mawr yn 1932 a 1933 gan gynnwys yr Holodomor, y newyn yn yr Wcrain . Ef oedd yn bennaf gyfrifol am roi cyhoeddusrwydd yn y gorllewin i'r newyn hwn.

Gareth Jones
Ganwyd14 Awst 1905 Edit this on Wikidata
y Barri Edit this on Wikidata
Bu farw12 Awst 1935 Edit this on Wikidata
Rehe Province Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auUrdd Teilyngdod, Dosbarth lll Edit this on Wikidata
Plac i Gareth Jones yn Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth

Magwraeth golygu

Ganed Gareth Jones yn Y Barri. Ei rieni oedd Annie Gwen Jones ac Uwchgapten Edgar Jones. Cyfarfu'r ddau yn 1889, ble'r oeddent yn myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yr oedd ei fam yn athrawes breifat o 1889 hyd 1892 i blant Arthur Hughes, mab y diwydiannwr Cymreig John Hughes, a sefydlodd tref Hughesovka (Donetsk heddiw) yn yr Wcrain. Magodd hyn yn naturiol ddiddordeb Gareth yn yr ardal. Yr oedd tad Gareth yn brifathro Ysgol Sirol y Barri, ble y mynychodd. Yr oedd ganddo ddwy chwaer, Gwyneth ac Eirian.

Derbyniod Gareth Jones radd Dosbarth Cyntaf mewn Ffrangeg o Aberystwyth yn 1926, cyn astudio yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, gan dderbyn radd Dosbarth Cyntaf yn 1929 mewn Ffrangeg, Almaeneg a Rwsieg.

Gyrfa golygu

Yn Ionawr 1930, cafodd swydd fel cynghorydd y cyn-Brif Weinidog David Lloyd George ar faterion tramor, ac aeth i Hughesovka am y tro cyntaf. Bu hefyd yn cynorthwyo David gyda'i hunangofiannau rhyfel.

Yn 1931 treuliodd Gareth peth amser yn Efrog Newydd gyda Ivy Lee, Cwnsler Cysylltiadau Cyhoeddus, gan ddychwelyd i Brydain oherwydd y Dirwasgiad Mawr.

Ewrop a'r Undeb Sofietaidd golygu

Ddiwedd Ionawr 1933, gadawodd Gareth Jones i ymweld ag Ewrop. Yr oedd yn bresennol yn Leipzig, yr Almaen, ar y diwrnod y gwnaed Adolf Hitler[1] yn Ganghellor. Chwefror 23, hedfanodd Gareth gyda Hitler i Rali Frankfurt, gan ysgrifennu erthygl a oedd yn cynnwys:

Pe bai'r awyren hon yn chwalu byddai holl hanes Ewrop yn newid. Ychydig droedfeddi i ffwrdd, mae Adolf Hitler yn eistedd, Canghellor yr Almaen, ac arweinydd deffroad genedlaetholdeb mwyaf folcanig mae'r Byd wedi ei weld.

Wedi'r adrodd ar y digwyddiadau pan ddaeth Adolf Hitler i rym, aeth ymlaen i Sofietaidd Rwsia ac Sofietaidd Wcrain am y dryddedd tro. Dychwelodd i Berlin a chyhoeddi ei ddatganiad enwog ar newyn yn Wcrain, Rwsia, Cawcawsws, Casachstan, ac ardal Volga, Mawrth 29ain 1933. Yr oedd hyn yn sgil Cynllun Pum Mlynedd Joseff Stalin. Argraffwyd ei ddatganiad mewn sawl papur gan gynnwys New York Evening Post a Manchester Guardian. Yn ei ddatganiad oedd "Nid oes bara. Rydym yn marw!". Roedd rhai yn gwadu hyn, gydag enillydd Gwobr Pulitzer Walter Duranty, yn ysgrifennu erthygl i'r New York Times Mawrth 31 yn awgrymu bod Gareth yn dweud celwydd. Ysgrifennodd Gareth erthygl arall i'r New York Times, Mai 13eg, yn dwedu ei fod yn gadarn yn yr hyn y dywedodd. Ar wahân i Malcolm Muggeridge, Gareth oedd un o'r nifer bach o newyddiadurwyr i adrodd ar y difrod. Cyhoeddodd ugain o erthyglau ym mis Ebrill 1933 yn unig yn y Western Mail, Daily Express ac eraill.

Mewn telegram gan Maxim Litvinov, Comisar Sofietaidd i Faterion Tramor, i David Lloyd George, cyhyddodd Gareth o ysbïo gan ei wahardd rhag ddychwelyd i Undeb Sofietaidd. Yr oedd hyn yn siom mawr iddo o ystyried ei gefndir a'i ddiddordebau.

Taith o amgylch y Byd a marwolaeth golygu

Ddiwedd mis Hydref 1934, gadawodd Gareth Ynysoedd Prydain am daith o amgylch y Byd yn hel gwybodaeth. I ddechrau, treuliodd dau fis yn UDA, ble ymwelodd â Wales, Wisconsin, cyfweld Frank Lloyd Wright, ac aros gyda Randolph Hearst yn San Simeon yng Nghaliffornia. Aeth ymlaen i Japan, gyda'r bwriad o ddysgu "Beth oedd y Japaneaid yn ei wneud?" ac i ymchwilio am chwant y genedl i ymestyn ei ffiniau daearyddol. Wedi chwe wythos yn y wlad yn cyfweld gwleidyddion a oedd yn dylanwadu ar ddigwyddiadau'r Byd, gadawodd i ymweld â gwledydd a oedd yn ymylu ar Japan, cyn cyrraedd Beijing (Peking ar y pryd). Tra yn Beijing, cafodd ei wahodd gan Barwn von Plessen i deithio gyda fo a Dr Herbert Müller i gyfarfod Tywysogion Mongolaidd yn llys Tywysog Teh Wang. Wedi'r cwrdd lliwgar, aeth Gareth a Dr Müller ymlaen i grwydro Mongolia Fewnol, gyda'r grêd nad oedd ysbeilwyr ar eu ffordd. Aethant i dref Dolonor, ble cafodd nhw eu dal gan filwyr Japaneaidd a oedd yn casglu yno. Cyngorwyd y ddau bod tri ffordd oddi yno yn ôl i Kalgan. Y diwrnod olynol, gadawodd y ddau ar ffordd yr oeddent yn ei ystyried yn ddiogel. Cafodd y ddau eu dal gan ysbeilwyr am bridwerth o £8,000. Rhyddhawyd Dr Müller wedi dau ddiwrnod. Cafodd bridwerth ei gynnig am Gareth, ond am rysemau aneglur, wedi 16eg diwrnod o gaethiwed fe'i lofruddiwyd. Ymysg yr ysbeilwyr oedd gwylwyr Japaneaidd, gyda dynion Tseineaidd yn pryderu am ddiogelwch aelodau eu teuluoedd, gwystlon byddin Japan yn Tientsin.


Bu gohebu cyson rhyngddo ag Ithel Davies yn Y Cymro a fu yn reit bersonol ar adegau.[2]

Yn 2008 cafodd Jones ei anrhydeddu gan Lywodraeth yr Wcráin gydag Urdd Ryddid y wlad am ei adroddiadau ar yr Holodomor.[3] [4]

Cyfeiriadau[5] golygu

  1. Colley, Philip (12/08/23). "My great uncle's legacy must be preserved, but not at the expense of the truth" (PDF). line feed character in |title= at position 43 (help); Check date values in: |date= (help)
  2. Alun Gibbard: Y Dyn Oedd yn Gwybod Gormod. Y Lolfa 2014
  3.  Anrhydeddu newyddiadurwr arwrol. BBC Cymru'r Byd (22 Tachwedd, 2008). Adalwyd ar 23 Tachwedd, 2008.
  4. Colley, Philip (2023-11-23). "Ukrainian Nationalists Distorted The Truth Of My Great Uncle Gareth Jones - Now The Senedd Is Too -" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-12-11.
  5. Empty citation (help)

Llyfryddiaeth golygu

  • Margaret Siriol Colley: Gareth Jones. More Than a Grain of Truth. Newark 2005. ISBN 0953700119
  • Alun Gibbard: Y Dyn Oedd Yn Gwybod Gormond. Y Lofa 2014. ISBN 9781847718372
  • Prom 2003. Cylchgrawn Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

Dolenni allanol golygu