Gemau'r Gymanwlad 2006

Gemau'r Gymanwlad 2006 oedd y deunawfed tro i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Melbourne, Awstralia oedd cartref y Gemau rhwng 15 - 26 Mawrth. Cafwyd cyfarfod i ddewis y ddinas fyddai'n cynnal y Gemau yn ystod Gemau'r Gymanwlad 1998 yn Kuala Lumpur ond nid oedd angen pleidlais wedi i Wellington, Seland Newydd dynnu'n ôl o'r ras gan adael Melbourne fel yr unig ymgeisydd.

Gemau'r Gymanwlad 2006
Enghraifft o'r canlynoledition of the Commonwealth Games Edit this on Wikidata
Dechreuwyd15 Mawrth 2006 Edit this on Wikidata
Daeth i ben26 Mawrth 2006 Edit this on Wikidata
LleoliadMelbourne Edit this on Wikidata
Yn cynnwysbadminton at the 2006 Commonwealth Games Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
18ed Gemau'r Gymanwlad
Campau17
Seremoni agoriadol15 Mawrth
Seremoni cau26 Mawrth
Agorwyd yn swyddogol ganIarll Wessex
XVII XIX  >

Y tîm cartref oedd â'r tîm mwyaf gyda 535 o athletwyr a swyddogion a Montserrat oedd â'r tîm lleiaf wrth i'r ynys fechan yrru tri athletwr ac un swyddog a chyflwynwyd Pêl-fasged i'r Gemau am y tro cyntaf.

Uchafbwyntiau'r Gemau golygu

Roedd y Gemau'n llwyddiant ysgubol i'r tîm cartref wrth i Awstralia gipio 84 medal aur - record i Gemau'r Gymanwlad - gan gynnwys 16 o'r 19 medal aur oedd ar gael i ferched yn y pwll nofio a'r ddwy gystadleuaeth pêl-fasged, oedd yn ymddangos am y tro cyntaf, ond bu raid iddynt fodloni ar fedal arian yn y pêl-rwyd wrth i Seland Newydd lwyddo i ddod y wlad gyntaf (heb law am Awstralia) i ennill y gystadleuaeth yn y Gemau.

Daeth Alexandra Orlando o Ganada y pedwerydd person i ennill chwe medal aur yn yr un Gemau wrth iddi ennill pob cystadleuaeth Gymnasteg Rhythmig a llwyddodd Alleyne Francique i ennill unig fedal Grenada yn holl hanes y Gemau hyd yma wrth iddo gipio'r fedal arian yn y 400m i ddynion.

Ar y trac beicio, daeth Mark Cavendish i'r amlwg wrth i'r gwibiwr ennill medal aur cyntaf Ynys Manaw ers Gemau Ymerodraeth Prydain 1966 gyda buddugoliaeth yn y Ras scratch. Gwnaeth Chris Froome ei unig ymddangosiad yn y Gemau hefyd gan gynrychioli Cenia - daeth yn 17eg yn y Ras yn erbyn y cloc, yn 25ain yn y ras lôn ac yn 24ain yn y gystadleuaeth beicio mynydd.[1]

Chwaraeon golygu

Timau yn cystadlu golygu

Cafwyd 72 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad, 2002

Tabl Medalau golygu

 Safle  Cenedl Aur Arian Efydd Cyfanswm
1   Awstralia 84 69 69 222
2   Lloegr 36 40 34 110
3   Canada 26 29 31 86
4   India 22 17 11 50
5   De Affrica 12 13 13 38
6   Yr Alban 11 7 11 29
7   Jamaica 10 4 8 22
8   Maleisia 7 12 10 29
9   Seland Newydd 6 12 13 31
10   Cenia 6 5 7 18
11   Singapôr 5 6 7 18
12   Nigeria 4 6 7 17
13   Cymru 3 5 11 19
14   Cyprus 3 1 2 6
15   Ghana 2 0 1 3
15   Wganda 2 0 1 3
17   Pacistan 1 3 1 5
18   Papua Gini Newydd 1 1 0 2
19   Ynys Manaw 1 0 1 2
19   Namibia 1 0 1 2
19   Tansanïa 1 0 1 2
22   Sri Lanca 1 0 0 1
23   Mawrisiws 0 3 0 3
24   Bahamas 0 2 0 2
24   Gogledd Iwerddon 0 2 0 2
26   Camerŵn 0 1 2 3
27   Botswana 0 1 1 2
27   Malta 0 1 1 2
27   Nawrw 0 1 1 2
30   Bangladesh 0 1 0 1
30   Grenada 0 1 0 1
30   Lesotho 0 1 0 1
33   Trinidad a Tobago 0 0 3 3
34   Seychelles 0 0 2 2
35   Barbados 0 0 1 1
35   Ffiji 0 0 1 1
35   Mosambic 0 0 1 1
35   Samoa 0 0 1 1
35   Gwlad Swasi 0 0 1 1
Cyfanswm 245 244 254 743

Medalau'r Cymry golygu

Roedd 143 aelod yn nhîm Cymru.

Medal Enw Cystadleuaeth
Aur Michaela Breeze Codi Pwysau 63 kg (Cyfuniad)
Aur David Davies Nofio 1500m Dull rhydd
Aur David Phelps Saethu 50m Reiffl tra'n gorwedd
Arian Julie Crane Athletau Naid uchel
Arian Kevin Evans Bocsio dros 91 kg
Arian Robert Weale Bowlio Lawnt Senglau
Arian Elizabeth Morgan Bowlio Lawnt Senglau
Arian David Eaton Gymnasteg Bar llorweddol
Efydd Beverley Jones Athletau 100m T38
Efydd Hayley Tullett Athletau 1500m
Efydd Nicole Cooke Beicio Ras lôn
Efydd Geraint Thomas Beicio Ras bwyntiau
Efydd Mohammed Nasir Bocsio o dan 48 kg
Efydd Darren Lee Edwards Bocsio 57 kg
Efydd Jamie Crees Bocsio 64 kg
Efydd Johanne Brekke Saethu Reiffl 50m tra'n gorwedd
Efydd David Phelps
a Gruffudd Morgan
Saethu Parau reiffl 50m tra'n gorwedd
Efydd David Roberts Nofio 100m Dull rhydd i'r anabl
Efydd David Davies Nofio 400m Dull rhydd

Cyfeiriadau golygu

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2002-07-25. Cyrchwyd 2013-09-28.

Dolenni allanol golygu

Rhagflaenydd:
Manceinion
Gemau'r Gymanwlad
Lleoliad y Gemau
Olynydd:
Delhi Newydd