Genedigaeth Gwener

Paentiad tempera ar gynfas gan Sandro Botticelli (1445-1510) yw Genedigaeth Gwener (Eidaleg: La nascita di Venere). Cafodd ei greu gan Botticelli ar gyfer ei noddwr Lorenzo de' Medici tua 1485.[1] Mae i'w cael yn Oriel yr Uffizi yn Fflorens, yr Eidal ac mae'n un o'r gweithiau celf mwyaf adnabyddus yn y byd.

Genedigaeth Gwener
Enghraifft o'r canlynolpaentiad Edit this on Wikidata
CrëwrSandro Botticelli Edit this on Wikidata
Deunyddtempera, cynfas Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydluc. 1485 Edit this on Wikidata
Genrepaentiad mytholegol, noethlun Edit this on Wikidata
CyfresQ117361736 Edit this on Wikidata
LleoliadUffizi Gallery - Room 10-14, Botticelli's Edit this on Wikidata
Prif bwncVenus Anadyomene Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Pwnc y darlun yw genedigaeth y dduwies Gwener (Aphrodite) o'r môr yng Nghyprus - ynys y dduwies. Mae'n adlewyrchu diddordeb dyneiddwyr y Dadeni Dysg ym mytholeg a diwylliant yr Henfyd. Mae'r darlun alegorïaidd yn cynrychioli cyflwyno harddwch i'r byd. Daw Gwener o'r môr mewn cawod o rosynnau ar gragen a yrrir gan dduwiau'r awyr. Wrth iddi baratoi i roi ei throed ar y lan mae nymff yn ymestyn mantell borffor iddi (mae porffor yn lliw a gysylltir â thras uchel a brenhiniaeth fel yn achos "porffor ymerodrol" Ymerawdwyr Rhufain).[2] Mae'r cynfas yn mesur 172.5 × 278.5 cm (67.91 × 109.65 modfedd).[1]

Gwyddom mai Simonetta Vespucci (1453-1476), un o ferched enwocaf y cyfnod yn yr Eidal, oedd y model sy'n portreadu Gwener.

Genedigaeth Gwener gan Botticelli

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Deimling, Barbara. Sandro Botticelli. 2000. Taschen, Art & Art Instruction, ISBN 3822859923, tud. 95.
  2. E. H. Gombrich, The Story of Art (Phaidon, 1951), tud. 192.