Gwleidydd o Ynysoedd Cook oedd Syr Geoffrey Arama Henry KBE (16 Tachwedd 19409 Mai 2012) oedd ddwywaith yn Brif Weinidog Ynysoedd Cook, o Ebrill 1983 hyd Tachwedd 1983 ac o 1989 hyd 1999. Ef oedd arweinydd Plaid Ynysoedd Cook (CIP) o 1979 hyd 2006. Roedd yn enwog am ei genedlaetholdeb ac am wrthwynebu arbrofi niwclear gan Ffrainc yn y Cefnfor Tawel.[1]

Geoffrey Henry
Ganwyd16 Tachwedd 1940 Edit this on Wikidata
Aitutaki Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mai 2012 Edit this on Wikidata
Ynysoedd Cook Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSeland Newydd Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Victoria yn Wellington Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddMember of the Parliament of the Cook Islands Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolCook Islands Party Edit this on Wikidata
Gwobr/auKBE Edit this on Wikidata

Enillodd radd yn y gyfraith o Brifysgol Victoria yn Wellington, Seland Newydd.[2] Daeth yn arweinydd yr CIP ym 1979 wedi i'w genfder Albert Henry ymddiswyddo yn dilyn sgandal. Gwasanaethodd yn y swydd am dymor byr cyn dod yn Arweinydd yr Wrthblaid. Dychwelodd i swydd y prif weinidog ym 1989. Cafodd ei urddo'n farchog ym 1992.[1] Tua diwedd y 1990au roedd gan Ynysoedd Cook ddyled ragor na $100 miliwn. Roedd aelodau'r CIP yn gwrthwynebu arweinyddiaeth Henry, ac felly ymddiswyddodd o'r brifweinidogaeth yng Ngorffennaf 1999 er mwyn atal ei blaid rhag chwalu.[1]

Penodwyd Henry yn Ddirprwy Brif Weinidog ac yn Weinidog dros Gyllid mewn llywodraeth glymblaid yn 2004, a gwasanaethodd hyd 2006. O 2011 hyd ei farwolaeth gwasanaethodd fel Llefarydd Senedd Ynysoedd Cook.[1] Yn Awst 2010 cafodd ei dynnu oddi ar awyren Air New Zealand ym Maes Awyr Rhyngwladol Auckland am iddo jocian bod swyddogion diogelwch yn credu ei fod yn derfysgwr.[3]

Bu farw o ganser ar 9 Mai 2012. Talwyd teyrnged gan Brif Weinidog Seland Newydd John Key.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Former Cook Islands PM Sir Geoffrey Henry dies. TVNZ (10 Mai 2012). Adalwyd ar 11 Mai 2012.
  2. (Saesneg) Former Cook Islands PM dies. stuff.co.nz (10 Mai 2012). Adalwyd ar 11 Mai 2012.
  3. (Saesneg) Former Cook Islands PM in terror alert. Radio New Zealand (26 Awst 2010). Adalwyd ar 11 Mai 2012.
  4. (Saesneg) Key pays tribute to ex-Cook Islands PM. MSN NZ (10 Mai 2012).