Arweinydd Palesteinaidd oedd George Habash (Arabeg: جورج حبش), hefyd "al-Hakim" (2 Awst, 192626 Ionawr, 2008).

George Habash
Ganwyd2 Awst 1926 Edit this on Wikidata
Lod Edit this on Wikidata
Bu farw26 Ionawr 2008 Edit this on Wikidata
Amman Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGwladwriaeth Palesteina, Palesteina dan Fandad Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol America yn Beirut Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, meddyg Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPopular Front for the Liberation of Palestine, Arab Nationalist Movement Edit this on Wikidata
PerthnasauYousef Habash Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Lydda (Lod yn Israel heddiw) i deulu o Balesteiniaid Cristionogol. Yn 1948 roedd ei deulu ymysg tua 10,000 o drigolion Palestinaidd a yrrwyd o'r ddinas pan gipiwyd hi gan Israel. Astudiodd feddygaeth yn Beirut a daeth yn feddyg yn 1951.

Ffurfiodd Habash y Mudiad Cenedlaethol Arabaidd yn 1951 a daeth yn ffigwr amlwg yn y PLO hyd at ryfel 1967. Wedi i Israel orchfygu'r cynghrair Arabaidd yn y rhyfel hwnnw, collodd ei ddylanwad a chymerodd Yasser Arafat ei le. Sefydlodd Habash y Popular Front for the Liberation of Palestine (PFLP). Ymddiswyddodd o arweinyddiaeth y PFLP yn 2000 oherwydd problemau iechyd.