Geraint Bowen

Bardd o Gymro a chyn-Archdderwydd (1915-2011)

Bardd yn hannu o Lanelli, Sir Gaerfyrddin oedd y Dr. Geraint Bowen (10 Medi 191516 Gorffennaf 2011). Treuliodd ei ieuenctid yng Ngheinewydd, Ceredigion. Roedd wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon, Gwynedd. Bu'n Arolygydd Ysgolion am gyfnod.

Geraint Bowen
Ganwyd10 Medi 1915 Edit this on Wikidata
Llanelli Edit this on Wikidata
Bu farw16 Gorffennaf 2011 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
PriodZonia Bowen Edit this on Wikidata

Enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberpennar 1946. Mae cwpled o'r awdl, bellach, yn epigram poblogaidd iawn:

Y gŵr a arddo'r gweryd
A heuo faes - gwyn ei fyd.

Roedd Geraint yn Archdderwydd o 1978 tan 1981. Roedd e'n frawd i'r bardd y diweddar Euros Bowen ac yn ŵr i Zonia Bowen, sefydlydd Merched y Wawr.

Cerddi golygu

  • Awdl Foliant i Amaethwr
  • Cân y Ddaear
  • Cân yr Angylion
  • T. Gwynn Jones (Y Bardd Celtaidd)
  • Cwm Llynor
  • Y Drewgoed
  • Cywydd y Coroni
  • Yr Aran
  • Prynhawnddydd
  • Dr. Gwenan Jones
  • Teyrnged i Gwyndaf
  • Cyfarch Bro Myrddin
  • Ar Doriad Gwawr
  • Branwen

- a llawer o gerddi eraill.


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.