Germania oedd yr enw a ddefnyddiai'r Rhufeinwyr am y diriogaeth oedd yn ymestyn i'r dwyrain o lan orllewinol Afon Rhein. Roedd y ffin yn y dwyrain yn aneglur, yn ymestyn tua Rwsia heddiw.

Yr ymerodraeth Rufeinig a Magna Germania, yn nechrau'r ail ganrif OC.
Erthygl am y dalaith yw hon. Am y llyfr gan Tacitus gweler Germania (llyfr).

Roedd llawer o lwythau yn Germania, llwythau Almaenaidd yn bennaf ond hefyd rhai Celtaidd, yn ogystal â Scythiaid a phobloedd Slafig. Disgrifiwyd Germania gan yr hanesydd Rhufeinig Tacitus yn ei lyfr Germania.

Ystyriai'r Rhufeiniaid fod Germania yn ddwy ran, 'Germania Fewnol', i'r gorllewin a'r de o Afon Rhein a Magna Germania (Germania Fawr) i'r dwyrain o Afon Rhein. Concrwyd Germania Fewnol gan y Rhufeiniaid, ac fe'i rhanwyd yn ddwy dalaith, Germania Inferior a Germania Superior. Llwyddodd y cadfridog Rhufeinig Drusus i goncro rhan helaeth o Germania Magna hefyd, ond ni fedrodd yr ymerodraeth ddal gafael ar y tiroedd hyn.