Car a gynhyrchwyd yn Llanilltud Faerdref ger Pontypridd, rhwng 1959 ac 1973, oedd y Gilbern.

Gilbern
Math
busnes
Math o fusnes
cwmni cyfyngedig a gyfyngwyd gan gyfranddaliadau
DiwydiantDiwydiant ceir
Sefydlwyd1959
Daeth i benEbrill 1973
PencadlysLlanilltud Faerdref

Sefydlwyd "Gilbern Sports Cars (Components) Ltd" gan Giles Smith, cigydd, a Bernard Friese, peiriannydd Almaenig a oedd â profiad o fowldio gwydr ffibr[1] Hon oedd un o'r ychydig geir i gael ei gynhyrchu yng Nghymru. Roedd Friese wedi adeiladu car ar gyfer ef ei hun a'i ddau bartner, a seiliodd y Gilbern cyntaf ar y car hwnnw. Dechreuodd y cwmni ar waith mewn gweithdy fechain yn Pentre'r Eglwys, ond pan ddechreuwyd gynhyrchu'r ceir, symudont i'r hen Lofa Red Ash yn Llanilltud Faerdref gerllaw. Dim ond fel ceir cit oedd y Gilbern ar gael i gychwyn, ond gwerthwyd ceir cyfan yn ddiweddarach.

Wedi i'r cwmni chwilio am fewnbyniad o arian, cafodd Gilbern ei gymryd drosodd gan Ace Capital Holdings Ltd a oedd yn cynhyrchu peiriannau slot yn bennaf.[1] Gadawodd Giles Smith y cwmni wedi hyn, a cymerodd Mike Leather a Maurice Collins ei le fel cyd-gyfarwyddwyr. Prynwyd Ace gan grŵp adloniant Mecca Ltd ym 1970 a gwerthwyd cwmni Gilbern i Maurice Collins, a gwerthodd ef hi unwaith eto ym 1972 i Mike Leather.

Roedd y ceir yn gymharol ddrud ar y pryd, a daethont yn ddrytach fyth pan newidiwyd y Treth ar Werth ar geir cit, daeth y cynhyrchu i ben ym 1973.

Gilbern Invader golygu

 
Gilbern Invader Mark II

Y Gilbern olaf i gael ei gynhyrchu oedd yr Invader, a gyflwynwyd gyntaf ym mis Gorffennaf 1969.[2] Roedd yr Invader wedi ei selio ar gynllun y Genie ond gyda gwelliannau yn y siasi a breciau mwy a'r hongiad yn dod o'r MGC. Roedd y car yn anelu at farchnad uwch, gyda ffenestri trydanol a dashfwrdd o bren cnau Ffrengig. Roedd ar gael ym 1970, a cynhyrchwyd fersiwn estate yn ogystal. Roedd trawsyriant awtomatig neu trawsyriant manual gyda overdrive ar gael. Diweddarwyd yr Invader gyda lawnsiad yr Invader Mark II ym 1971.

Cafodd y Mark III ei lawnsio ym mis Medi 1972,[3] roedd gan hwn hongiad blaen Ford Cortina ac roedd y blaen a'r cefn wedi cael ei ail-steilio. Daeth y modur o'r Ford Capri 3000GT a cynhyrchwyd y corff gan ddefnyddio mowldiau newydd iw wneud yn lletach ac yn is na'r hen Invader.[3] Ymestynwyd y trac o bedwar modfedd (10 cm). Oherwydd yr echel lletach, cafodd sbats eu ychwanegu ar gyfer yr olwynion.[3]

Nid oedd hwn ar gael fel car cit, roedd ar werth am £2693 ym 1972.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 N. Georgano (2000). Beaulieu Encyclopedia of the Automobile. Llundain: HMSO. ISBN 1579582931
  2. (14 Awst 1969) Autotest: Gilbern Invader, Cyfrol 131, Rhifyn 3834. Autocar, tud. t. 16–19
  3. 3.0 3.1 3.2 Peter Garnier (gol.) (14 Medi 1972). Worldwide news and comment: Gilbern Invader Mark III, Cyfrol 137, Rhifyn 3985. Autocar, tud. t. 3


Dolenni allanol golygu